Basged (0) Mewngofnodi

Dewch i ymuno â phrosiect dawns, tecstilau a cherddoriaeth!

Mae Cwmni Dawns Hedydd yn cynnal prosiect mewn dawns, tecstilau a cherddoriaeth wedi'i leoli yn Galeri, Caernarfon.

Nod y prosiect yw dod â phobl o'r gymuned nam ar eu golwg, y gymuned Wcrainaidd, GISDA - grŵp pobl ifanc LHDTC+ a Cain - grŵp dawns yr henoed ynghyd.

Bydd y prosiect yn cynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr mewn symudiad, cerddoriaeth a thecstilau a pherfformiad llwyfan yng nghyntedd Galeri Caernarfon.

Mae'n gyfle i greu, dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a rhannu straeon trwy symudiad, ysgrifennu caneuon a gwaith tecstilau.

Cynhelir dosbarthiadau meistr ym mis Mai, Mehefin a Gorffennaf, gydag ymarferion rhwng Gorffennaf 12-15 a pherfformiad ar Orffennaf 16.

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at: hedyddcyf@gmail.com neu ffoniwch: 07962424410.

Cynhelir yr holl weithdai, ymarferion a pherfformiadau yn Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ.