Dim ond tair wythnos i fynd!
🏣Dros 30 o stondinau!
❤️Tocynnau AM DDIM! Ffoniwch 0121 803 5313 neu ebostiwch sv@qac.ac.uk
🏴Dewch i Sight Village, Llandudno!
Dydd Mawrth, Medi 22, 2026
Dewch i ddysgu am yr offer a'r gwasanaethau diweddaraf a gorau ar gyfer pobl ddall a'r rhai sy'n byw gyda nam golwg.
Dewch i gwrdd ag elusennau ac arddangoswyr yn Llandudno!
Yn eu mysg mae Optelec UK - solutions for Low Vision – sy’n un o wneuthurwyr technoleg gynorthwyol mwyaf a hynaf y DU.
O chwyddwydrau optegol a pheiriannau darllen electronig i’r dyfeisiadau diweddaraf.
Mae gan eu hymgynghorwyr flynyddoedd o brofiad o wahanol gyflyrau nam golwg a byddant yn gallu ateb unrhyw gwestiynau.
Yn Sight Village, byddant yn arddangos eu hystod lawn i chi gael profiad ymarferol.


