Diolch i Radio Cymru am roi sylw i fenter Barn i helpu’r deillion
Diolch yn fawr i raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru am roi sylw i fenter y cylchgrawn Barn i gynyrchu fersiwn sain rhad ac am ddim ar gyfer y deillion a phobl sy'n byw gyda nam golwg.
Mae colofnwyr y cylchgrawn yn recordio eu colofnau yn stiwdio Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind ym Mangor a Llyfrau Llafar, Caerfyrddin.
Gwrandewch yma, o 1.55' ymlaen, tua 8.55yb, bore heddiw, 18.12.25 gyda Kate Crockett yn holi Eiry Milies o gylchgrawn Barn
