Diolch i’r bobl ifanc am goginio pastai cyw iâr i’r deillion!
Bore gwych gyda J a B hefo Sian o Youth Shedz Cymru, yn coginio Pastai Cyw Iâr o'r dechrau.
Dysgu sut i wneud stoc gan ddefnyddio gweddillion carcas a llysiau, sgil gwych i helpu i arbed arian ac ymestyn y cynhwysion ymhellach.
Ac fe wnaeth 16 o aelodau Clwb Deillion Bae Colwyn fwynhau bwyta eu cinio gyda'i gilydd.
Hefyd pwdin reis.
Pryd cwbl gytbwys a maethlon ar bob lefel!
Te prynhawn y tro nesaf!
- Aelodau Cymdeithas y Deillion yn bwyta pastai cyw iâr
- Pastai Cyw Iâr - Gyda crwst euraidd ar top
- Cyw iar a llysiau yn cael ei coginio mewn padell
- Golwg agos o'r cyw iawr ar llysiau yn cael ei coginio mewn padell
- Dau person yn helpu i'w gilydd i pastai cyw iâr
- Golygfa agos o'r pastai pot cyw iâr wedi'i weini mewn powlen
- Person yn torri llysiau i rhoi mewn i'r pastai cyw iâr
- Golwg agos o wahanol llysiau fydd yn mynd mewn i'r pastai cyw iâr. Moron, Nionod a Chennin
- Person yn rhoi crwst ar ben cyw iar a llysiau i creu pei









