Diwrnod Agored, Y Ganolfan, Porthmadog
Mae Bethan, swyddog ymgysylltu Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, yn gwahodd pawb sydd efo nam golwg i ddod i'n Diwrnod Agored yn Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd ddydd Iau, Medi 26 rhwng 1-4yp.
Bydd yna arddangosfa o offer arbenigol - cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth.
Edrych ymlaen i'ch gweld chi yno.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Bethan 01248 353604