A- A A+

English

Drama gyntaf y comedïwr Tudur Owen nawr ar daith

Bydd drama gyntaf y comedïwr Tudur Owen yn agor yn Galeri, Caernarfon ar Fai 1, cyn teithio i theatrau ledled Cymru.

Enw’r ddrama ydi Huw Fyw gyda Tudur yn actio’r brif ran fel cyn-filwr sy’n mynd ar antur i Lundain.

Hefyd yn y ddrama bydd Lois Meleri Jones, sydd yn llysgennad i GWRANDO sef gwasanaeth llyfrau llafar Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru.

Yr actorion eraill yw Owen Alun a Dafydd Emyr.

Bydd teithiau cyffwrdd ar gael cyn y sioeau er mwyn rhoi cyfle i fynychwyr dall a’r rheiny sydd yn byw gyda nam golwg allu archwilio’r set, props a gwisgoedd.

A bydd awdio disgrifio Cymraeg.

Dyma fanylion taith Huw Fyw:
Mai 1-3, Galeri, Caernarfon
Mai 7, Theatr y Lyric, Caerfyrddin
Mai 9, Theatr Felin-fach, Dyffryn Aeron
Mai 14-16, Theatr y Sherman, Caerdydd
Mai 20, Y Stiwt, Rhosllannerchrugog
Mai 22, Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Mai 24, Pontio, Bangor