Basged (0) Mewngofnodi

Dros 20 o bobl yn sefydlu clwb cymdeithasol newydd i’r deillion yng Nghaernarfon

Daeth dros 20 o bobl at ei gilydd heddiw i sefydlu clwb cymdeithasol newydd i bobl sy’n byw gyda nam ar eu golwg yn ardal Caernarfon.

Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru drefnodd y cyfarfod cyntaf – a hynny yn Lle Arall, sy’n rhan o Llety Arall ar Stryd y Plas ynghanol y dref.

Mae’r adeilad wedi ei addasu yn arbennig i fod yn hygyrch gyda drysau llydan.

Eglurodd swyddog cyfathrebu’r Gymdeithas Hywel Trewyn fod yna grwpiau tebyg eraill ym Mangor, Porthmadog, Bae Colwyn a Llangefni – a’u bod yn gynyddol boblogaidd.

Dywedodd prif weithredwr y Gymdeithas, Steven Thomas: “Maent yn cynnig lle croesawgar i bobl rannu profiadau, cefnogi ei gilydd, ac i dreulio amser gyda phobl eraill sy’n deall heriau byw gyda nam ar eu golwg.”

Eglurodd swyddog ymgysylltu’r Gymdeithas, Bethan Sage Williams fod hwn yn gyfle i’r grŵp gynnal pob mathau o ddigwyddiadau.

Ychwanegodd Tracy Richardson Jones, sy’n gwirfoddoli gyda’r Gymdeithas, mai’r aelodau fydd yn dewis beth fyddan nhw yn ei gynnal.

Dywedodd y gall hyn amrywio o gael siaradwyr gwadd i drefnu sesiynau rhannu gwybodaeth, profiadau a chynghorion yn ogystal a chael sgwrs, siarad, paned a hwyl gyda phobl eraill

Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â nam golwg neu sy’n ddall a’u teuluoedd a’u ffrindiau i ymuno.

Mae’r clwb yn cwrdd ar y dydd Mawrth cyntaf o bob mis am 10:30yb.

Mae croeso i unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth i gysylltu â Bethan Sage Williams ar 01248 353604 neu admin@nwsb.org.uk

Bydd y cyfarfod nesaf ar 5.1.2027.

Mae’r lluniau yn dangos aelodau’r clwb yn y cyfarfod cyntaf yng Nghaernarfon heddiw.