Edrych ymlaen i weld beth sy’n dod nesaf yn fy ngyrfa nofio!
Ela Letton-Jones: “Helo, Ela Letton Jones sydd yma. Dwi’n ffresh o ennill y fedal arian yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow. Dyma’r fedal. Mae o yn rîli del!
“Dwi yn hynod, hynod hapus gyda ‘mherfformiad i yn Glasgow, a dwi ddim yn meddwl ei fod o cweit wedi suddo ‘mewn hyd yn oed erbyn hyn.
“Ia, mae o yn brofiad na’i gofio am byth a dwi jyst yn edrych ymlaen i weld beth sy’n dod nesaf yn fy ngyrfa nofio.
“Dwi yn ffresh o fy ngwylia – ac oedd hi’n neis cael amser off – a wan dwi yn cael wythnos allan o fynd i fewn i’r pwll eto a dechrau season newydd.
“Ia, mae hynna’n hynod o gyffrous.
“Swn i hefyd yn hoffi rhoi ‘shout-out’ massive i’r holl waith mae Cymdeithas Deillion (Gogledd Cymru) yn ei wneud a dwi’n edrych ymlaen i weld beth sydd ganddyn nhw yn dod i fyny.
“Diolch.”

