Basged (0) Mewngofnodi

Ela’r nofwraig “heb ddisgwyl” ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Para-Nofio y Byd!

D’oedd nofwraig o Wynedd “ddim yn disgwyl o gwbl” ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Para-Nofio y Byd yn Singapore.

Roedd Ela Letton-Jones, 18 oed, o’r Felinheli yn cystadlu am y tro cyntaf ac yn cynrychioli Prydain.

Nawr, mae hi wrth ei bodd ar ôl dod yn ail yn y gystadleuaeth 100m dull cefn a gynhaliwyd dros wythnos yn ôl.

Fe wnaeth hi hefyd gystadlu yn y 100m dull pili pala, y 50m dull rhydd, 100m dull rhydd a 200m dull cymysg i gyd o fewn yr wythnos.

Meddai Ela: “Oni di dychryn! Oni ddim yn gwybod tan oni ‘di hitio’r wal yn y diwedd!

“Swn i ‘di bod yn hapus yn gwella fy amser ond dwi wrth fy modd mod i wedi cael medal.”

Mae Ela yn hoffi nofio mewn cystadlaethau mawr ac mae clywed sŵn a chefnogaeth y dorf yn ei helpu.

“Dwi’n nofio yn well pan ‘dwi dan bwysau. Mae ‘na rwbath tu mewn i mi yn rhoi nerth imi,” meddai.

Mae Ela wedi bod yn nofio ers yn ifanc iawn ar ôl iddi hi a’i chwiorydd Alys, 21 a Carys, 16, gael gwersi ym Mhlas Menai a phwll nofio Caernarfon.

Mae Ela wedi’i chofrestru’n ddall gyda albiniaeth sef diffyg pigmentiad yn y corff, gan gynnwys y llygaid, y gwallt a'r croen. Mae'r cyflwr i'w gael mewn un allan o 20,000 o bobl ledled y byd.

Dydi hi ddim yn medru gweld ymhellach na metr o’i blaen.

Ers yn blentyn, mae Ela a’i theulu wedi cael cefnogaeth gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru a’i chyngor hi i blant eraill gyda nam golwg ydi: “Peidia â gadael iddo ddal chdi yn ôl. Bydd pobol wedyn yn dy weld ti am be ti’n medru ei wneud. Dylai fo ddim dy stopio di yn gorfforol. 

Meddai Ela: “Mae pob plentyn yn wahanol. ‘Dwi ddim yn ‘Ela sy efo nam golwg’. Dyle ti ddim gadael i nam golwg ddiffinio pwy wyt ti. 

“Pan ti yn y pwll, ti ar ben dy un. Yn seicolegol, does yna ddim byd mwy satisfying na ymarfer a symud dy gorff.”

Ychwanegodd: “Mae nofio yn sicr yn ffordd dda i wneud rhywbeth arall i waith ysgol ac yn ffordd dda iawn i gymysgu efo pobl eraill.”

Nod Ela rŵan ydi cymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Los Angeles yn 2028. Ond tan hynny, mae’n cadw ei thraed ar y ddaear.

Roedd teulu Ela yn y maes awyr i’w chroesawu yn ôl o Singapore'r wythnos ddiwethaf cyn iddi ddechrau pennod newydd wrth fynd i’r coleg.

Ac roedd eu cartref yn y Felinheli wedi ei addurno’n wych i’w chroesawu hi adref.

Nawr mae Ela newydd ddechrau astudio Troseddeg yng Ngholeg Met Manceinion.

Dewisodd y coleg yma oherwydd yno mae Canolfan Ddŵr Manceinion sydd â phwll nofio maint 50m Olympaidd a ble mae tîm nofio para Prydain yn hyfforddi.

Mae Ela hefyd wedi cystadlu yn Ffrainc a’r Eidal ac roedd hi o fewn eiliad a hanner i fynd i’r Gemau Olympaidd ym Mharis yn 2024.

Mae’n gobeithio cystadlu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad y flwyddyn nesaf.

Dywedodd ei thad, Iolo: “Mae Ela’n ddiolchgar am y gefnogaeth mae hi wedi ei gael gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru gyda touch-typing a pheiriannau darllen testun.

“Efo nofio, mae’n amlwg does dim angen cymorth technegol.

“Mae’r Gymdeithas wedi bod yna i Ela – er nad ydi hi wedi defnyddio cymaint o’r adnoddau a hynny. A da ni yn adnabod y staff. Maen nhw wastad wedi bod yna inni.”