Basged (0) Mewngofnodi

Gareth yn siarad drwy ei sbectol!

Yn ddiweddar cafodd Gareth Llwyd ei holi am fanteision cadarnhaol i ddefnyddio sbectol glyfar – yn enwedig i bobl sydd a nam golwg.

Cafodd Gareth ei holi gan Alun Thomas ar raglen Post Prynhawn, BBC Radio Cymru.

Meddai Gareth: "Dwi'n siarad efo chi drwy'r sbectol!"

Mae Gareth, o Fethesda, yn ddall ers yn ifanc iawn.

Mae o’n aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ers sawl blwyddyn.

Mae’n bosib gwrando ar sgwrs Gareth drwy’r ddolen yma.

Gareth Llwyd yn edrych ar lyfr wrth wisgo'r sbectol