Basged (0) Mewngofnodi

£50 o dalebau AM DDIM am lun gyda Eli’r Eliffant yn Eisteddfod yr Urdd!

Mae Eli’r Eliffant yn edrych ymlaen at gyfarfod ffrindiau newydd ar faes Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn ymhen 5 diwrnod!

Eli’r Eliffant ydi masgot Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind.

Dewch i gyfarfod a dweud 'Helo!' wrth Eli ar ein stondin Rhif 72 , neu bydd yn crwydro’r Maes.

Dewch i gael tynnu eich llun gydag Eli!

Anfonwch eich llun/iau a thagiwch ni ar ein cyfrifon ar Facebook, Instagram a TikTok.

Bydd un o’r lluniau yn cael ei ddewis ar hap ac yn cael gwobr talebau (vouchers) gwerth £50!

Ewch amdani!