Gwrandewch yma ar leisiau pedwar person fydd yn arddangosfa Sight Village Llandudno!
Pedwar person a fydd yn mynychu arddangosfa Sight Village yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Mawrth, 22 Medi, 2026 rhwng 9yb a 4yp, fydd Steven, Chris, Cerian a Roxanne.
Dyma ddolenni byr i'w teitlau swydd ynghyd â recordiadau llais gan Bayside Radio Colwyn Bay ar gyfer pob un ohonynt.
Mae pob un ohonynt yn Saesneg, ac eithrio un Cerian, sydd yn Gymraeg.
Dyma'r teitlau swydd:
Steven Thomas yw prif weithredwr Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Mae'r elusen yn cefnogi unigolion dall a rhai sy’n byw gyda nam golwg ledled y Gogledd drwy ddarparu offer hanfodol, hyfforddiant technoleg gynorthwyol, llyfrau llafar Cymraeg, grantiau a grwpiau cymunedol.
Optometrydd cartref yw Chris Gould. Mae'n cynnal profion llygaid am ddim i bobl dros 60 oed sy'n methu ag ymweld â siopau optometryddion ar y stryd fawr yn Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid (ECLO) yw Cerian Harries, sy'n gweithio yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar ran y Royal National Institute of Blind People (RNIB).
Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid (ECLO) amser llawn yw Roxanne Anderson, sy'n gweithio yng Nghlinig Llygaid Stanley, Ysbyty Abergele, ar ran y Royal National Institute of Blind People (RNIB).
A dyma'r dolenni llais ar gyfer y pedwar ohonynt:
Steven Thomas
Cerian Harries
Roxanne Anderson
