A- A A+

English

Hanes a golygfeydd gwych ar ein taith at odre'r Wyddfa

Daeth 29 o gerddwyr ar ein taith ddiweddaraf at odre’r Wyddfa.

Roedd yn braf gweld nifer o wynebau newydd wedi ymuno a Chlwb Cerdded Eryri ar y daith bedair milltir.

Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru sy’n cynnal y clwb gan drefnu teithiau gwahanol bob mis yn ogystal â chludiant bws i’r cerddwyr a’r tywyswyr.

Roedd yna hefyd chwech o gŵn tywys yn arwain y cerddwyr.

Cyfarfûm ym maes parcio Pen-y-Pas er mwyn dilyn Llwybr y Mwynwyr a gorffen y daith ger cyn-Fwynglawdd Copr Britannia - tua hanner y ffordd i fyny i’r copa.

Yr Wyddfa yw mynydd uchaf Cymru yn mesur 1,085 o fetrau neu 3,560 o droedfeddi o uchder.

Adeiladwyd Llwybr y Mwynwyr i gludo mwyn haearn o’r Mwynglawdd a gaeodd ym 1913.

Roedd hi’n eithaf cymylog ar y dechrau cyn i’r haul dywynnu.

Aethom heibio Llyn Teyrn cyn anelu at lannau Llyn Llydaw, un o lynnoedd dyfnaf Eryri lle gafon ni ginio a hwyl yn sgwrsio.

Mae Llyn Llydaw wedi’i leoli ar uchder o 1,430 troedfedd (436m). Mae ychydig dros filltir o hyd a tua chwarter milltir o led. 

Ar ei ddyfnaf, mae’n 192 troedfedd ac fe’i ystyrir yn un o lynnoedd oeraf Cymru. 

Erbyn hyn roedd hi’n bosib inni weld copa’r Wyddfa’r glir. 

Fe sylwon ni ar bibell ddŵr yn ymestyn i lawr y dyffryn sy’n cyflenwi dŵr o Lyn Llydaw i orsaf bŵer hydro-electrig Cwm Dyli yn Nyffryn Gwynant. Dyma’r orsaf bŵer hynaf ym Mhrydain.

Ar ôl cinio fe wnaethon ni groesi Sarn Llyn Llydaw i gyrraedd hen Fwynglawdd Copr Britannia a rhyfeddu at ei faint.

Mae adfeilion y Mwynglawdd yn cynnwys y felin falu a rhai o farics y glowyr.

Wrth edrych ar draws Llyn Glaslyn, i’r chwith o gopa’r Wyddfa, fe edrychon ni ar Fwlch y Saethau. Arferai’r gweithiwyr o Feddgelert ddringo drosto gyda chadwyni haearn wedi’u gosod ar y graig.

Yn ôl y chwedl, dyma le cafodd y Brenin Arthur ei daro gan saeth mewn brwydr. Fe’i cariwyd at lan Llyn Llydaw, lle daeth cwch gyda thair morwyn a’i gludo trwy’r niwl i Afallon.

Wedi seibiant byr, fe wnaethon gerdded yn ôl at ddechrau’r daith gyda phawb wedi mwynhau yn arw ac yn edrych ymlaen at y daith nesaf.