A- A A+

English

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth i nodi Wythnos Gwirfoddolwyr

Cafodd dwsin o wirfoddolwyr hyfforddiant ymwybyddiaeth gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru.

Trefnwyd yr hyfforddiant yn arbennig gan y Gymdeithas fel rhan o wythnos gwirfoddolwyr Mehefin 3-9.

Roedd yr wythnos hefyd yn dathlu 40 mlynedd o wythnosau tebyg i ysbrydoli gwirfoddolwyr i wneud gwahaniaeth.

Yn ystod y sesiwn, cafodd y gwirfoddolwyr eu hyfforddi gan hyfforddwyr profiadol sut i dywys pobl â nam golwg ar hyd strydoedd dinas Bangor.

Cafodd yr hyfforddiant ei gynnal yng Nghanolfan y Crynwyr, Stryd y Deon, Bangor ddydd Gwener, Mehefin 7.

Mae gan y Gymdeithas dîm ymroddedig o wirfoddolwyr i’w helpu mewn amrywiaeth o rolau gwahanol.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan y swyddog ymgysylltu Bethan Sage Williams a’i arwain gan dau o’nm swyddogion adfer, Dafydd Eckley a Sara Milner-Jones.

Dywedodd Dafydd: “Roedd yna ymateb da iawn i’r hyfforddiant a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r gwirfoddolwyr am ymuno.

“Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o waith y Gymdeithas ac yn ein galluogi i gynnal teithiau Clwb Cerdded Eryri, er enghraifft.”

Dywedodd prif weithredwr CDGC Steven Jones: “Mae ein gwirfoddolwyr hefyd yn rhoi cymorth inni gynnal clybiau cymdeithasol rheolaidd fel yr un a gynhelir yn fisol ym Mae Colwyn, er enghraifft.

“Rydym fel Cymdeithas yn falch ein bod wedi trefnu digwyddiad arbennig i nodi Wythnos Gwirfoddolwyr ac yn edrych ymlaen at gynnal rhagor o ddigwyddiadau yn y dyfodol agos.

“Mae croeso i unrhyw un fyddai’n hoffi ymuno gyda ni fel gwirfoddolwyr i gysylltu gyda ni.”