Hyfforddiant ymwybyddiaeth i wirfoddolwyr
Cafodd pedwar o wirfoddolwyr hyfforddiant ymwybyddiaeth gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru 4.3.26.
Pwrpas y cwrs oedd dysgu sut i fod yn fwy ymwybodol o’r gwahanol gyflyrau nam golwg a’r effaith y maen nhw yn eu cael ar bob unigolyn mewn gwahanol ffyrdd.
Arweinyddion y cwrs oedd Annest Jeffery a Sara Milner-Jones, y ddwy yn swyddogion adfer gyda’r Gymdeithas.
Mae 1.7 miliwn o bobl gyda nam golwg yn byw yn y Deyrnas Gyfunol a 20,000 yng Nghymru.
Mae’r gwahanol gyflyrau yn cynnwys glawcoma, cataracts, retinopathi diabetig a dirywiad maciwlaidd.
Soniodd y ddwy am waith y swyddog adfer ac am y broses gofrestru a chyfeirio a’r gwasanaethau buddiol a gynigir gan y Gymdeithas gan gynnwys ein canolfan adnoddau yn Stryd Fawr, Bangor.
Mae rhai pobl wedi disgrifio colli eu golwg fel profiad tebyg i’r broses galaru.
Neges bositif y Gymdeithas yw fod yna fywyd ar ôl colli golwg.
Cafodd aelodau’r cwrs wedyn wisgo sbectolau arbennig i efelychu’r gwahanol gyflyrau cyn gwisgo mwgwd.
Wedyn rhoddwyd cyngor ar sut i arwain person dall yn gywir gan roi disgrifiadau clir iddyn nhw o’r awyrgylch o’u cwmpas a rhwystrau posib.
Trafodwyd yr adnoddau a chefnogaeth sydd ar yn lleol a chenedlaethol gan gynnwys cŵn tywys a’r diweddara mewn sbectolau tebyg i sbectol Ray-Ban Meta.
Cytunodd y pedwar eu bod wedi dysgu llawer o fynychu’r cwrs undydd.
Mae’r Gymdeithas yma ac ar gael i unrhyw un ar draws y Gogledd a’r canolbarth sydd eisiau cymorth.
Os hoffech chi archebu hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gyfer eich cwmni, asiantaeth, awdurdod neu eich cymdeithas chi, ffoniwch ni 01248 353604 neu admin@nwsb.org.uk neu galwch mewn i’n canolfan adnoddau yn 325, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YB.
- pobl yn siarad cyn ddechrau'r gweithgaredd
- person yn gwisgo mwgwd yn dechrau taith nhw gyda swyddogion adfer
- person yn gwisgo mwgwd yn cerdded gyda swyddogion adfer
- person yn gwisgo mwgwd yn cerdded tu allan i'r adeilad
- person yn gwisgo mwgwd yn cerdded dros lon
- person yn gwisgo mwgwd yn cerdded gyda swyddogion adfer
- Person yn cerdded â rhwymyn llygaid







