Basged (0) Mewngofnodi

Hyfforddiant ymwybyddiaeth i wirfoddolwyr

Cafodd pedwar o wirfoddolwyr hyfforddiant ymwybyddiaeth gan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind ddoe. (9.9.26)

Pwrpas y cwrs oedd dysgu sut i fod yn fwy ymwybodol o’r gwahanol gyflyrau nam golwg a’r effaith y maen nhw yn eu cael ar bob unigolyn mewn gwahanol ffyrdd.

Arweinyddion y cwrs oedd Anest Jeffery a Sara Milner-Jones, y ddwy yn swyddogion adfer gyda’r Gymdeithas.

Cafodd y pedwar wisgo sbectolau arbennig i efelychu’r gwahanol gyflyrau nam golwg cyn gwisgo mwgwd.

Wedyn rhoddwyd cyngor ar sut i arwain person dall yn gywir gan roi disgrifiadau clir iddyn nhw o’r awyrgylch o’u cwmpas a rhwystrau posib..

Cytunodd y pedwar eu bod wedi dysgu llawer o fynychu’r cwrs.

Os hoffech chi archebu hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gyfer eich cwmni, asiantaeth, awdurdod neu eich cymdeithas chi, ffoniwch ni 01248 353604 neu admin@nwsb.org.uk neu galwch mewn i’n canolfan adnoddau yn 325, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YB.

Lluniau yn dangos y gwirfoddolwyr yn gwisgo mygydau fel rhan o’u hyfforddiant ar rai o strydoedd dinas Bangor