A- A A+

English

Hyfforddiant ymwybyddiaeth i’r Ymddiriedolaeth Afonydd

Ymunodd tri aelod o staff North Wales Rivers Trust -Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru â'n cwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth nam ar y golwg i ddysgu sut i weithio gyda phobl sy'n byw gyda nam golwg.

Arweinwyr y cwrs oedd Dafydd Eckley ac Anest Jeffery - y ddau yn swyddogion adsefydlu gyda Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind.

Eglurodd Dafydd mai swyddogaeth y Gymdeithas yw helpu i wneud y gorau o alluoedd gweledol plant ac oedolion.

Rhoddodd fanylion am rai o’r llu o gyflyrau llygaid sy’n bodoli a’r cymorth sydd ar gael i bawb.

Eglurodd Anest fod gweithwyr adsefydlu’r Gymdeithas yn gallu darparu cefnogaeth i bobl yn eu cartrefi eu hunain neu yn ein canolfan ar y Stryd Fawr, Bangor.

Dangosodd Anest a Dafydd yr offer amrywiol sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda nam golwg cyn rhoi cyfle i bawb gael sesiwn ymarfer arwain person sydd a nam golwg trwy wisgo mwgwd.

Roedd yr adborth i'r hyffyrddiant gan North Wales Rivers Trust -Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymruyn gadarnhaol iawn.

Medden nhw: “Diolch yn fawr iawn i Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blindam hyfforddi rhai o’n staff mewn ymwybyddiaeth a thywys pobl sy'n byw gyda nam golwg heddiw.

“Roedd yn gwrs addysgiadol iawn ac roedd yn wych dysgu mwy am eu gwaith a’r hyn y gallwn ei wneud i wneud digwyddiadau gwirfoddol ac afonydd yn gyffredinol yn fwy hygyrch i bobl â nam golwg.”

Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind yn cynnig cyrsiau hyfforddiant ymwybyddiaeth tebyg i unrhyw sefydliad, cwmni, cymdeithas ac ati sydd eisiau gwybod mwy am weithio gyda phobl sy'n byw gyda nam golwg.

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Dafydd Eckley ar 01248 353604 neu admin@nwsb.org.uk neu dewch i'n gweld am sgwrs yn ein swyddfa yn 325, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd.