Basged (0) Mewngofnodi

Hysbysiad ein taith gerdded nesaf i Llyn Crafnant, Medi 17, 2025

Ymddiheuriadau am yr hwyrni ein hysbysiad y mis hwn. Yn anffodus, bu’n rhaid canslo ein taith gerdded arfaethedig yn Rhosneigr, Ynys Môn oherwydd bod rhannau o’r llwybr yn anaddas.

Felly byddwn yn dychwelyd at daith gerdded a wnaethom yn 2023, Llyn Crafnant yn Nyffryn Conwy.

Mae hon yn daith gerdded gylchol hawdd o tua 3.5 milltir o amgylch y llyn ar arwyneb solet gwastad gan mwyaf.

Byddwn yn ymgynnull yn y maes parcio sydd ychydig bellter o’r llyn i ddechrau’r daith gerdded tua 11:30yb.

Mae toiledau yma i ni ar ddechrau a diwedd y daith gerdded.

Hanner ffordd o amgylch y llwybr byddwn yn cymryd egwyl am ginio felly peidiwch ag anghofio dod â diod a bwyd gyda chi yn ogystal ag esgidiau a dillad addas.

Mae’r Gymdeithas wedi trefnu cludiant i adael ein swyddfa am 10:30yb i gyrraedd dechrau’r daith gerdded am 11:30yb.

Byddwn yn gadael am ein taith yn ôl i Fangor am 2:30yp.

Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech roi gwybod i Bethan Sage Williams yn y Gymdeithas os ydych chi'n bwriadu ymuno â ni erbyn dydd Gwener, Medi 12 fan bellaf fel y gallwn drefnu'r cludiant angenrheidiol.

Edrychwn ymlaen yn fawr at eich cwmni eto'r mis hwn.

Mark

Llun o Llyn Crafnant yn Dyffryn Conwy gan Shotsbysys gyda awyr las yn y cefndir

Llun: Llyn Crafnant, gan Shotsbysus, WikiCommons