Ian yn cynnig ei hun fel tywysydd i redwyr dall
Mae gwirfoddolwr gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru wedi cwblhau hyfforddiant arbennig fel tywysydd i ddeillion sy’n rhedeg.
Dechreuodd Ian Jones o Brynteg, Ynys Môn wirfoddoli gyda’r Gymdeithas y llynedd wedi iddo wella o’i anafiadau ar ôl damwain seiclo.
Ers hynny mae Ian, sy’n briod ac yn dad i ddau, wedi gwirfoddoli fel tywysydd ar deithiau cerdded Clwb Cerdded Eryri a drefnir yn fisol gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
Mae Ian yn redwr, naturiaethwr ac adarwr brwd ac yn medru disgrifio’r coed, planhigion a’r adar o’i gwmpas i’r deillion ar y teithiau cerdded.
Mae’n aelod o Glwb Rhedeg y Môn Milers.
Mae Ian hefyd yn canu a chwarae’r gitar. Bu’n difyrru’r deillion yn eu cinio nadolig ac mae’n canu fel rhan o’r paratoadau wythnosol yn ParkRun Niwbwrch, Ynys Môn.
Meddai Ian, 60: “Rwyf wedi cwblhau gweithdy ‘Sight Loss Awareness and Guide Running’ ac mae gennyf dystysgrif DBS (Disclosure and Barring Service) cyfredol.”
Dywedodd: “Rwyf yn mynychu, gwirfoddoli a chwblhau ParkRun Niwbwrch, Ynys Môn yn gyson ac yn mwynhau yr awyrgylch cymdeithasaol a chynhywsol sydd i’w gael yn y teulu rhedeg.
“Yn ddiweddar, rwyf wedi ennill trwydded ‘Arweinydd mewn ffitrwydd rhedeg’. Mae hwn yn gymhwyster swyddogol sy’n cael ei gydnabod gan holl gyrff athletau Prydain sy’n rhoi sylw i ddullliau cynhesu cyn ac ar ôl rhedeg; dulliau ymestyn statig a deinamig a thechnegau rhedeg effeithlon.
“Hoffwn ddatblygu yr ochor tywys a gellir darganfod fy mhroffil drwy ymweld â’r wefan Find-a-guide a rhoi côd post LL78 yn y blwch chwilio.”
Ar ei broffil, dywed Ian ei fod ar gael i redeg fel tywysydd mewn unrhyw Park Run yn y Gogledd. Fe fyddai angen rhybudd i ymarfer ar gyfer rhedeg 10k a hanner marathon.
Gallwch gysylltu gyda Ian drwy’r Gymdeithas ar 01248 353604.


