Basged (0) Mewngofnodi

Llongyfarchiadau i Sara ar gymwyso fel Arbenigwr Adsefydlu Golwg

Llongyfarchiadau i Sara Milner-Jones ar gymhwyso fel Arbenigwr Adsefydlu Golwg, yn dilyn cwrs dwy flynedd ym Mhrifysgol Birmingham.

Mae Sara yn gweithio i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru sy'n gwasanaethu Ynys Môn a Gwynedd.

Mae hi’n un o ddim ond 35 o weithwyr proffesiynol, cymhwysiedig, yng Nghymru sy’n cefnogi pobl â nam ar eu golwg i aros mor annibynnol â mor ddiogel â phosibl, ac i wella ansawdd eu bywyd.

Gwneir hyn trwy hyfforddiant ym meysydd symudedd, cyfathrebu, sgiliau bywyd a nam golwg yn ogystal ag arddangos a dosbarthu offer a chodi ymwybyddiaeth a chyfeirio at wasanaethau cymorth eraill yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae'n ymuno â thîm o bedwar o swyddogion cymwysiedig eraill gyda’r Gymdeithas.

Mae’r Gymdeithas yn cefnogi pobl ar draws Gogledd Cymru ac yn darparu gwasanaeth adsefydlu, sy’n cynorthwyo tua 900 o bobl sydd â nam ar eu golwg yn eu cartrefi ar draws Gwynedd ac Ynys Môn.

Sara Milner Jones yn gafael mewn blodau a cardyn gyda logo Cymdeithas yn y cefndir

Dywedodd yr uwch swyddog adsefydlu, Dafydd Eckley: “Mae Sara wedi gweithio gyda ni ers 2022 ac mae hi wedi dod yn aelod gwerthfawr iawn o dîm o 12 o weithwyr sydd wedi’u lleoli yn ein canolfan adnoddau ym Mangor.”

Dywedodd Sara: “Diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi tra oeddwn yn cymryd fy nghymhwyster. Rwy'n edrych ymlaen at roi'r hyn rwyf wedi ei ddysgu ar waith i gefnogi pobl sy'n byw gydag nam golwg yn Ynys Môn a Gwynedd.

“Rwy'n teimlo'n lwcus i fod yn rhan o dîm mor fedrus a phrofiadol gyda Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru sy’n cyflawni popeth y gallwn i gefnogi pobl i barhau i fod yn annibynnol.”