Llyfr Llafar y Mis – Mai
Lloerganiadau
Gan Fflur Dafydd
Trysor o gyfrol o atgofion yr awdures amryddawn, fu erioed yn syllu tuag at y lloer. Mae cymaint mwy yn y gyfrol hon, hanes Silas Evans y seryddwr diymhongar o Aberystwyth; Christa McAuliffe yr ofodwraig, ac atomau golau y ffurfafen. Planed o gyfrol.
