Llyfr newydd i blant gyda bwystfilod o’r môr, siarcod benthyg-pres a ffish-ffingars wedi rhewi!
- Mae stiwdio GWRANDO Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind yn Stryd Fawr, Bangor yn brysur yn recordio llwyth o lyfrau llafar newydd i blant ac oedolion.
- Maen nhw ar gael o'ch llyfrgell leol.
- Dyma fanylion y nofel i blant - ‘Arwana Swtan a'r Sgodyn Od’ gan Angie Roberts a Dyfan Roberts.
- Mae’r stori yn dilyn Arwana, 10 oed, wrth iddi gyrraedd Caernarfon i aros gyda’i thaid, Taidi.
- Mae’r dref mewn argyfwng ar ôl i'r holl bysgod ddiflannu. Ond mae popeth yn newid pan ymddengys morforwyn enigmatig, Swigi Dwgong.
- Stori gyflym, ddoniol, sy’n llawn antur a gobaith.
- Y darllenydd yw Mari Prys.
- Cyhoeddwyd gan Gwasg y Bwthyn.
