Basged (0) Mewngofnodi

Llyfrau llafar i blant ar ein stondin yn yr Eisteddfod!

Gyda 12 diwrnod tan Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn, ryda ni yn rhoi sylw i’n llyfrau llafar i blant cyn y digwyddiad mawr!

Bydd y llyfrau i gyd ar gael fel CD, MP3 ac USB ar stondin Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn yr Eisteddfod fydd ar Gae Sioe Môn, dydd Sadwrn, Mai 23 tan ddydd Gwener, Mai 29, 2026.

Ein llyfr cyntaf yw Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos.

Stori ddirdynnol am gaethferch, am forwyn, am long a chastell ac am ddioddefaint y tu hwnt i ddychymyg.

Darllenwyd gan Elain Llwyd.

Cyhoeddwyd gan Carreg Gwalch.

Edrychwn ymlaen at eich gweld!

(Ewch at ein cyfrifon Facebook, Instagram a TikTok i wybod am y llyfrau!)

Clawr Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos yn dangos llun o castell a cefndir du