A- A A+

English

Lois Meleri Jones yw llysgennad cyntaf GWRANDO

Braint yw cael bod yn llysgennad i GWRANDO.

Rwyf wedi bod eisiau lleisio llyfrau Cymraeg ers blynyddoedd. Mi oedd genai freuddwyd o allu lleisio holl lyfrau Cymru! Roedd y dasg yn rhy fawr ar ben fy hun, ond ers cyfarfod criw GWRANDO’r Gymdeithas dwi wedi dechrau gwireddu’r freudddwyd honno. Mae’n bwysig i mi fod llyfrau yn mynd tu hwnt i’w tudalennau; bod y cyfle yna i bobl o bob oed gael mynediad at a mwynhad o lyfrau Cymraeg. Edrychaf ymlaen at gefnogi GWRANDO mewn unrhyw ffordd y gallaf.

Meleri