Basged (0) Mewngofnodi

Mae arnom angen eich cymorth i sefydlu grŵp cymdeithasol newydd yng Nghaernarfon

Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn sefydlu grŵp cymdeithasol newydd i bobl sy’n byw gyda nam ar eu golwg yn ardal Caernarfon.

Mewn rhannau eraill o Ogledd Cymru – Bangor, Porthmadog, Bae Colwyn a Llangefni - mae’r grwpiau hyn wedi dod yn gynyddol boblogaidd.

Maent yn cynnig lle croesawgar i bobl rannu profiadau, cefnogi ei gilydd, ac i dreulio amser gyda phobl eraill sy’n deall heriau byw gyda nam ar eu golwg.

Mae llawer o’n haelodau yn dweud wrthym ba mor werthfawr yw’r grwpiau hyn.

Dywedodd un o aelodau ein grŵp ym Mae Colwyn: “Mae ein grŵp yn wych — rydym i gyd wedi dod yn ffrindiau da iawn. Mae gennym siaradwyr gwadd ar bob math o bynciau diddorol, ac weithiau rydym yn gwneud sesiynau crefft, neu’n eistedd gyda’n gilydd i rannu profiadau.

“Mae’n le ardderchog i wneud ffrindiau newydd ac i siarad â phobl eraill sy’n deall nam ar eu golwg. Rwyf wedi cael cymaint o awgrymiadau a chynghorion gan eraill ers ymuno, ac rwy’n edrych ymlaen at fynd bob mis.”

Er mwyn sicrhau bod unrhyw grŵp newydd yng Nghaernarfon yn ystyrlon ac yn adlewyrchu’r hyn rydych chi ei eisiau, rydym yn trefnu sesiwn anffurfiol i gael eich barn yn Lle Arall, Llety Arall 9 Stryd y Plas Caernarfon Gwynedd LL55 1RR dydd Mawrth 3 Tachwedd 10:30yb.

Croeso cynnes i chi ddod draw.

Os yn bosibl, a wnewch chi ffonio Bethan ar 01248 353604 i roi gwybod eich bod yn bwriadu dod, fel y gallwn sicrhau bod digon o seddi a lluniaeth ar gael i bawb.

Byddem wrth ein boddau’n yn eich croesawu chi yno ac yn clywed eich barn.