Medal arian “uchafbwynt hyd yma” i’r nofwraig Ela
Ennill medal arian yn Glasgow yw’r “uchafbwynt hyd yma” i’r nofwraig Ela Letton Jones – er iddi gael arian hefyd ym Mhencampwriaethau Paranofio’r Byd y llynedd.
Mae Ela wedi’i chofrestru’n ddall gyda albiniaeth sef diffyg pigmentiad yn y corff,
Ennillodd ei medal ddiweddaraf yng Ngemau’r Gymanwlad gan gwblhau’r ras 100 metr mewn un munud a 4.30 eilad gan dorri’r record Gymreig a’i record gorau personol.
Mae’r nofwraig yn falch iawn o’i Chymreictod ac o gael gwisgo gwisg Cymru i gystadlu.
Meddai Ela, 19, o’r Felinheli, Gwynedd: “Mae cystadlu efo Cymru jyst yn well dydi. Oni yn licio fod ein gwisgoedd yn dangos Cymru ar y cefn, yn lle Wales.
“Swn i’n dweud fod cael medal ym Mhencampwriaethau’r Byd yn cyfrif mwy ond o ran ei wneud o i Gymru yn hytrach nag i GB – a dwi’n meddwl ei fod o’n well gan fod fy nheulu i yna hefyd.”
Meddai: “Ar ôl y ras d’oeddwn i ddim yn gwybod mod i wedi cael medal neu ddim! Ac oeddwn i ddim yn gwybod yr amser yr oeddwn i wedi ei wneud na dim byd!
“Rheolwr y Tîm yn sefyll wrth ochor y pwll wnaeth ddweud wrtha i.
“Fel arfer dachi yn clywed y sylwebydd yn y venue ond roedd y sŵn yn uchel, felly wnes i ddim clywed!”
“Oni yn gwybod pa mor agos oedd o yn mynd i fod ac fe wnaeth hynny fy ngwneud i ychydig bach yn fwy nerfus.
“Oni ddim yn meddwl y baswn i’n cael medal pan es i mewn i’r pwll. Ond unwaith oni yn y dŵr, ti’n cael y blas amdano fo wedyn.”
Dywedodd Ela fod y gair “silver” wedi ei ysgrifennu mewn Braille ar gefn ei medal.
Meddai: “Wnes i ddysgu Braille o pan oni yn yr ysgol bach. Oeddwn i ddim yn hoffi cael fy nhynnu allan o’r dosbarth i’w ddysgu o. Ond pan dwi’n sbio yn ôl, dwi yn falch y gwnes i.
“Dwi yn meddwl ei fod yn bwysicach i rai sy’n cael cyflyrau progressive (o nam golwg).
“Ella bod y peiriant Braille yn hen-ffashiwn; dydio ddim yn accessible iawn. Dydio ddim run fath a fuasech chi yn gallu sgwennu mewn beiro.”
Mae Ela yn bwriadu ymlacio am rai wythnosau cyn dychwelyd i nofio eto fis Medi.
Meddai: “Dwi ddim yn meddwl y bydda i yn neis iawn i fod o gwmpas os ‘dwi ddim yn mynd i nofio mewn chydig bach!”
“Dwi’n edrych ymlaen i fod rownd pobol Cymraeg i fod yn onast. Yn y coleg yn Manceinion dwi jyst yn clwad Saesneg trwy’r amser!”
Ychwanegodd y byddai’n hoffi diolch i bawb am eu cefnogaeth iddi.
Meddai: “Dwi ddim yn big-headed ond dwi ‘rioed wedi teimlo mor boblogaidd gyda mamau pobl yn rhoi sylwadau ar Facebook. Mae hynny yn neis.”
Y freuddwyd i Ela ydi cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn Los Angeles yn 2028.
Meddai: “Deffo. Los Angeles yn fwy nag erioed. Bydd hi’n cŵl mynd i fanna. Dwi’n gwybod eu bod nhw yn gwneud driverless taxis.
“Mae o’n beth da yn dydi? Achos wedyn dwi’n gobeithio y bydd yna ceir heb yrrwyr yn dod i fanma, ac y cai ddreifio un a dim gorfod gofyn i mam a dad am lifft!”




