A- A A+

English

Meddwl yn Wahanol

Mae tri person anabl yn trafod eu bywydau, brwydrau, buddugoliaethau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol mewn podlediad newydd.

Mae ‘Meddwl Yn Wahanol’ “yn onest, yn amrwd, yn llawn gwybodaeth ac yn codi calon,” yn ôl BBC Radio Cymru.

Mae Bethan Richards, cyflwynydd y gyfres, yn ddall ac wedi wynebu heriau ei hun gyda’i thaith anabledd.

Y tri pherson cyntaf sy’n cael ei holi ganddi ydi Beth Frazer, cantores gafodd diwmor ar ei ymennydd; athrawes fyddar Kristy Hopkins ac actor gafodd Sglerosis Ymledol, Rhys Miles Thomas.

Gellir gwrando ar y tri podlediad ar BBC Sounds.

Dyma’r podlediad cyntaf gan BBC Radio Cymru sydd wedi’i drawsgrifio’n llawn.

D’oes dim ond rhaid i’r gwrandawyr bwyso botwm ar y wefan i gael gweld y geiriau’n llawn.

Ganwyd Bethan yn Nyffryn Aman. Mae hi wedi byw yn Rhydaman, Bangor a siroedd Dinbych a Fflint. Roedd hi’n gweithio fel athrawes cyn symud i Gaerdydd fel cynhyrchydd gyda’r BBC.

Meddai: “Ges i’n ngeni gyda cataracts felly dechreuodd y triniaethau pan o’n i’n ifanc iawn, iawn.

“’Dwi’n meddwl mai’r triniaethau cyntaf ges i oedd pan oni’n chwe mis oed i gael gwared a’r cataracts.

“Dwi ‘di cael llu o driniaethau, sbecdolau ac yn y blaen. Heddiw, d’oes gen i ddim golwg o gwbl yn fy llygad chwith ac mae gennai ychydig bach, bach o olwg yn fy llygad dde.

Meddai Bethan: “Mae’n anodd esbonio’r beth yw’r cyflyrau sydd arnai. Mae genai glaucoma eilradd; ond y broblem fawr sy’ gen i yw fod fy cornbilennau (corneas) yn dirywio yn fawr iawn.

“Dwi wedi cael sawl trawsblaniad cyfan a rhannol

“Dy’n nhw ddim yn gweithio’n dda iawn arnai, felly, ‘chydig iawn, iawn o olwg sydd gyda i.”

Ychwanegodd Bethan: “Dwi’n dal i weithio; dwi’n wraig; dwi’n fam i ddau o blant yn eu harddegau a dwi hefyd yn canu efo Diffiniad.”

Mae Bethan wedi bod efo Diffiniad ers 1992.

Bydd Diffiniad  ba yn Nhafwyl ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sadwrn cyntaf ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam.

Meddai: “Dwi’n berson eithaf prysur. Dwi’n trio peidio gadael i fy ngolwg i gael y gorau arna i, a fi’n dweud d’oes dim llawer dwi’n methu gwneud. Er dwi’n meddwl dydio ddim yn beth iach i roi delwedd sydd yn fel i gyd i bawb.

“Dwi yn meddwl hefyd ei bod hi’n bwysig iawn ein bod yn cydnabod bod byw efo nam golwg yn anodd eithriadol ac yn gallu bod yn bwysau ar iechyd meddwl rhywun a bod angen cymorth emosiynol ac ymarferol,

“A bod bywyd yn gallu bod yn anodd eithriadol, weithiau. Ond os fe allwn ni fod yn llwyddiannus yn y negesuon ‘da ni yn eu rhannu, dwi’n meddwl fod hynna’n bwysig iawn.

Ychwanegodd: “Dwi’n dal yn teimlo mod i ar daith gyda fy anabledd ac wrth i mi gael y cyfle i siarad efo sawl person dros y blynyddoedd diwethaf trwy fy ngwaith, fe wnes i sylweddoli fod gen i stori i’w ddweud ac efallai bod gan bobl eraill stori i’w ddweud.

“Dyna pam y ges i’r syniad o greu y podlediad Meddwl yn Wahanol ac wrth galon yr holl beth oedd y ffaith fy mod i eisiau ei wneud ‘e mor gynhwysol a hygyrch i bawb.

“Mae anabledd pawb mor wahanol. Ni mor unigryw ac olion bysedd ond dani yma i helpu’n gilydd ac os mae cymdeithas yn gallu newid a chreu bywyd sy’n fwy cynhwysol ac yn fwy hygyrch i ni gyda’n anabledd, bydd ein anabledd ni yn teimlo’n ffel llai o frwydr.

“Dod dros y rhwystrau yna sy’n bwysig a dathlu ein buddugoliaethau.”

Dewch o hyd i Meddwl yn Wahanol ar BBC Sounds yma