A- A A+

English

Murlun yn dangos nad oes dim yn rhwystr i blant a phobl ifanc sydd â nam golwg

Mae plant a phobl ifanc wedi dod at ei gilydd i baentio murlun sy’n adlewyrchu eu teimladau a’u profiadau o golli golwg.

O dan arweiniad yr arlunydd graffiti Andy Birch, aethant ati i ddefnyddio caniau i chwistrellu paent i greu graffiti yn swyddfa Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor.

Aeth y grŵp ati i gynllunio a phaentio murlun lliwgar sydd yn addurno’r ganolfan adnoddau ac yn croesawu pawb sydd yn ymweld.

Dywedodd un o aelodau’r grŵp, Lauren: “Dwi wedi mwynhau bod yn rhan o grŵp o sydd wedi  creu rhywbeth sy’n mynd i aros yna am byth. Syniad fi oedd gwneud gwenynen ar y wal oherwydd maen nhw’n gallu bod yn resilient ac i ddangos bod byw gyda nam golwg ddim yn gorfod bod yn rhwystr i neb gyflawni pethau.”

Dywedodd prif weithredwr yr elusen, Steven Thomas: “Roedd hi’n wych i gael y plant a’r bobl ifanc sydd gyda nam golwg yn cydweithio mor hapus â phositif wrth greu graffiti sy’n ddarn celf liwgar iawn.

“Roedd yn brofiad newydd iddyn nhw ddefnyddio caniau i chwistrellu paent ar wal wedi iddyn nhw benderfynu ar gynllun wrth drafod gyda’r artist Andy Birch.

“Roedd y digwyddiad hwn yn un o nifer o rai yr ydym yn bwriadu eu trefnu dros y misoedd nesaf i gynnig cyfleoedd i’r plant a phobl ifanc ddod at ei gilydd a rhannu profiadau positif.

“Mae croeso i unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth I’n ffonio ni.”

Os oes rhywun eisiau dod i weld y murlun, mae croeso ichi gysylltu yn y lle cyntaf drwy anfon at admin@nwsb.org.uk

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

lauren and maiah yn gafael ei celf
 
 
  • lauren and maiah yn gafael ei celf
  • emrys and lludd yn dangos ei gwaith
  • efan elsi a mari yn gafael ei celf
  • placiau enw plant
  • plant a rieni yn y gweithgaredd
  • plant yn peintio
  • ruby gyda ei celf
  • plentyn yn defynddio can paent
  • cychwyn y mural
  • paentio wal
  • aelodau yn gweithio ar y wal
  • rhoi celf ar wal
  • members setting up the spray paint
  • 3 person yn creu celf ar y wal
  • pobl yn edrych ar y celf ar y wal
  • 2 bachgen yn gweithio ar y wal
  • dyn yn helpu dynes
  • dyn yn helpu merch ifanc gyda'r murlun
  • gwenyn yn cael ei baentio
  • dyn yn cael ei gyfweld
  • plant yn creu mural
  • llygad yn cael ei beintio â chwistrell
  • plant yn gwylio y mural yn cael ei beintio
  • plant yn helpu peintio
  • dyn yn sefyll oflaen y mural
  • y mural wedi gorffen
  • llun llygad wedi ei baentio
  • ci tywys wedi ei baentio
  • 1882 graffiti ar wal