A- A A+

English

Newid dyddiad i’n sesiwn hwyl ‘Crazy Climb’ AM DDIM

Cynhelir gan

Dewch i ymuno gyda’n sesiwn hwyl o ‘Crazy Climb’ yn rhad ac AM DDIM yn y Beacon, Caernarfon.

Mae’n gyfle i gwrdd a siarad gyda phlant a phobol ifanc eraill gyda nam golwg a’u teuluoedd.

Y dyddiad ydi: Dydd Sadwrn, Gorffennaf 13, 2024

1 sesiwn i blant rhwng 5-12 oed am 10.30-11.30 (14 lle ar gael)

1 sesiwn i bobl ifanc rhwng 13-20 oed am 12-1 (14 lle ar gael)

Hefyd bydd ystafell ychwanegol ar gael i gwrdd a siarad gyda aelodau staff o Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru, y Royal Society of Blind Children (RSBC) a Guide Dogs Cymru.

Mae’n rhaid bwcio ymlaen llaw. I fwcio neu i gael rhagor o fanylion cysylltwch â Nick Thomas ar 01248 353604 neu nick@nwsb.org.uk

Llun yn dangos plant yn mwynhau sesiwn dringo yn Beacon, Caernarfon

hyfforddwr dringo gyda phlentyn