A- A A+

English

Nick ar ben ei ddigon ar ôl ennill dwy fedal arian!

Mae’r para-saethydd Nick Thomas ar ben ei ddigon ar ôl ennill dwy fedal arian mewn dwy gystadleuaeth dros y penwythnos.

Golyga’r gamp yma fod gan Nick obaith nawr o gynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2025, fydd o bosib yng Nghorea.

Mae Nick, 46, o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, yn briod a Marie, 42, ac yn dad i Cadi, 14 a Hari, 10.

Mae wedi ei gofrestru yn ddall ac yn gweithio fel swyddog datblygu gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of the Blind ym Mangor.

Ddydd Sadwrn diwethaf (Medi 14) bu’n cystadlu yn National Disability Championships yn Lilleshall ger Telford.

Yna, bu’n cystadlu yn y British Blind Sports National Championships ar y dydd Sul gan ddod yn ail yn y ddwy gystadleuaeth.

Ei wraig Marie oedd ei sbotar - yn eistedd un metr tu ôl i’r saethwr – heb hawl gwneud unrhyw hyfforddi heblaw dweud ble’r oedd y saethau yn glanio ar y targed.

Targed Nick oedd gorffen y cystadlaethau a bod yn hapus gyda’i saethu gan gyrraedd sgôr i’w alluogi i ymuno gyda sgwad Prydain Fawr.

Ers iddo gael ail strôc fach tua mis yn ôl, mae gan Nick “chydig o wendid yn ei ochr chwith.”

Meddai: “D’oeddwn i ddim yn hollol sicr pa fath o lefel oeddwn i ar ôl y strôc fwyaf diweddar. D’oedd fy ymarfer i ddim wedi mynd yn grêt oherwydd y balans a’r gwendid.”

Collodd Nick yn y ffeinal o drwch blewyn ddydd Sadwrn.

Meddai: “Roeddwn i’n hapus iawn gyda’r fedal arian ac o gael sgôr uwchben y lefel mae British Blind Sport wedi ei osod i gynrychioli Prydain Fawr.”

Saethodd dros 100 o saethau ddydd Sadwrn a 144 ddydd Sul. Y disgwyl yw fod cystadleuwyr yn medru saethu chwe saeth o fewn pedwar munud!

Er ei fod wedi blino ar ôl y dydd Sadwrn, roedd yn ôl ar y cae yn barod i saethu am 9 fore Sul.

Yna gwnaeth ei fwa alwminiwm “ddechrau camfihafio” sef “equipment malfunction” gyda’r cebl oedd yn dal y rest yn dal y saeth yn disgyn.

D’oedd dim amdani i Nick ond rhoi ei law i fyny fel arwydd i’r beirniaid fod ei fwa ddim yn anelu’n gywir – a’i fod am ddefnyddio ei ail fwa – er nad ydi hwnnw yn saethu yn union yr un fath.

Meddai Nick: “Roedd gin i bedwar saeth ar ôl a gyda 40 eiliad i bob un saeth. Roedd pawb arall yn gorfod disgwyl tan oeddwn i yn saethu’r pedwar.

“Wnes i golli ‘chydig o bwyntia’ ond roeddwn yn ddigon hapus i orffen yn ail.”

Meddai: “O’ ni yn gwybod yn syth fod ‘na ‘rwbath o’i le – oedd y twrw yn wahanol. Oedd rhaid imi weithio allan be oedd o’i le yn sydyn!”

“’Sbïo yn ôl, a bod yn onest, ‘dwi yn falch ei fod o wedi digwydd. Mae’n fy mharatoi i wybod be i’w wneud os basa fo yn digwydd eto - sef dim gwastraffu amser i weithio allan be sy’n digwydd – ond rhoi fy llaw i fyny a dweud wrth y beirniad a gafael yn y bwa arall.”

Meddai Nick: “Dyma’r tro cyntaf imi gael ‘equipment malfunction’. Ar yr adeg roedd o’n reit rwystredig.”

Ychwanegodd: “Oeddwn i’n hapus iawn fy mod wedi dod yn ail. Mae’n digwydd mewn chwaraeon. Rhaid iti ddysgu sut i ddelio efo fo.”

Y nod nesaf yw paratoi ar gyfer y tymor dan-do gyda’r British Indoor Championships fis Ebrill.

Wedyn, gobeithio anelu am bencampwriaethau’r byd y flwyddyn nesaf.