Basged (0) Mewngofnodi

Nick ar raglen Heno yn disgrifio’r “teimlad anhygoel” ar ôl ennill medal aur yn Ne Corea

Mae dyn o Wynedd wedi disgrifio’r “teimlad anhygoel” o ennill medal aur ym Mhencampwriaeth Para-Saethyddiaeth y Byd yn Ne Corea.

Roedd Nick Thomas o Dalysarn yn Nyffryn Nantlle yn cynrychioli Prydain yn y gystadleuaeth yn Gwangju, gan ennill categori ar gyfer pobl gyda nam ar eu golwg.

Mae gan Nick, 47, gyflwr o'r enw Stargardt Macular Dystrophy, ac mae wedi cofrestru'n ddall.

Mae’n gweithio fel swyddog datblygu gyda Chymdeithas Ddeillion Gogledd Cymru ym Mangor.

Gwyliwch ei gyfweliad a ddarlledwyd ar raglen Heno, S4C yma.

Gyda diolch yn fawr i Caryl Bryn a Heno.

Nick Thomas yn siarad â Caryl Bryn ar raglen Heno ar S4C