Nick y saethydd ar raglen deledu HENO ar S4C - HENO!
Bydd cyfweliad arbennig gyda Nick Thomas, 41 – y saethydd bwa o Dalysarn, Dyffryn Nantlle – yn cael ei gynnal ar raglen Heno – heno am 7yh.
Mae Nick wedi ei gofrestru yn ddall.
Mae yn gweithio fel swyddog datblygu gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor.
Yr wythnos yma bydd o’n cystadlu ym Mhencampwriaeth Para-Saethyddiaeth Ewrop yn Rhufain, yr Eidal.
Bydd yn cystadlu yn erbyn saethyddion o bob rhan o Ewrop – am y fedal aur.
Bydd ei stori ar raglan Heno ar S4C am 7yh – heno, 21.05.24
