A- A A+

English

Nick yn anelu i fod yn bencampwr Ewrop

Mae dyn o Wynedd yn anelu i fod yn bencampwr Ewrop mewn cystadleuaeth saethyddiaeth yn Rhufain y mis yma.

Mae Nick Thomas, 46, o Talysarn, Dyffryn Nantlle, yn hyderus y gall ennill medal aur.

Bydd Nick – sy’n briod a Marie, 42, ac yn sy’n dad i Cadi, 14 a Hari, 10, yn cystadlu yng ym Mhencampwriaeth Para-Saethyddiaeth Ewrop.

Bydd yn cystadlu yn erbyn 10 o saethwyr eraill o wledydd yr Eidal, Romania, yr Almaen, Gwlad Belg a Sbaen.

Mae Nick wedi ei gofrestru yn ddall ac yn gweithio fel swyddog datblygu gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor. Hon fydd y trydydd pencwampwriaeth Ewrop iddo gystadlu ynddi.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Nick wedi curo pob un o’i gystadleuwyr mewn gwahanol gystadleuthau

Meddai: “Sa neb yn y gystadleuaeth yma yn fy nychryn i. Dwi’n gwybod mod i yn ddigon atebol i guro nhw i gyd.

“Fe fasa’n neis cael deud fy mod yn bencampwr Ewrop – y gorau yn Ewrop yn dy gamp. Gobeithio allai ddefnyddio hynny wedyn ‘fatha platfform i drio ysbrydoli pobl eraill i gymeryd rhan nid jyst mewn saethyddiaeth neu chwaraeon ond fod pobl a nam golwg dal yn gallu mynd allan a gwneud rhwbath gwerth chweil a dal gallu byw bywyd ar ôl anableddau.”

Ar ôl cyrraedd Rhufain ddydd Llun (Mai 20) bydd gan Nick ymarferiadau. Bydd ei cit (Prydain Fawr) yn cael ei archwilio gan gynnwys ei fwa a’i saethau i fod o fewn y rheolau.

Bydd sesiynau cymhwyso (qualifying) gyda’r saethyddwyr yn saethu at darged 30 metr i ffwrdd.

Y sgôr uchaf sy’n penderfynu pwy sy’n mynd i’r rownd nesaf – ‘head to head’.

Mae’r pedwar gorau’n cystadlu am y medalau aur, arian ac efydd.

Mae Nick edi ennill medalau aur ym Mhencampwriaethau Prydain y tu allan ac o dan do; un arian yn Gêmau’r Byd, dwy efydd ym Mhencampwriaethau’r Byd ac un efydd ym Mhencampwriaeth Ewrop,

Meddai Nick: “Mae’r gwynt yn ffactor mawr. Os di’r gwynt yn chwythu’n gryf . . . mae’n anodd.”

Mae’r saethwyr yn medru defnyddio ‘tactile sight’ – gan ddefnyddio un llaw i anelu.

Meddai Nick: “Mae pobl sy’n medru gweld yn medru symud eu sight nhw ychydig. Mae ein llaw ni yn sownd. Rhaid i’r para saethwyr geisio teimlo’r gwynt eu hunain a gweld os ydio yn ddigon cryf i wthio’r saeth i’r ochr.”

“Mae rhai pobl gyda ffotoffobias lle mae’r haul a golau yn gallu effeithio’r llygadau ac mae o’n gallu brifo yn dibynnu lle mae’r haul. Mae na lot o ffactorau ti ddim yn meddwl amdanyn nhw.”

Bydd Nick yn cystadlu yn erbyn saethwyr eraill sydd a nam golwg. Mae nifer o wahanol gategoriau.

Meddai: “Mae ‘na gefnogwyr a lot o siarad a gwaeddi. Mae o’n rhywbeth ti’n gorfod dod i arfer efo. Yr unig lais ‘dwi yn gwrando allan amdano ydi fy sbotar i – sy’n dweud wrtha i lle mae fy saethau yn landio ar y targed.”

Ei wraig, Marie, fydd ei sbotar y tro yma. Ei sbotar arall yw ei frawd-yng-nghyfraith, Tom.

Meddai Nick: “Oherwydd bod ni ddim yn gweld y targed, ‘da ni yn gorfod dibynnu ar sut mae’r shot yn teimlo, dwi yn gwybod yn syth bin pan ei bod hi’n shot dda - yn agos i’r canol.”

Mae’r sbotar yn eistedd un metr tu ôl I’r saethwr – ond nid oes hawl iddyn nhw wneud unrhyw hyfforddi heblaw dweud ble mae’r saeth yn glanio ar y targed.

Meddai Nick: “’Da ni’n defnyddio system lliwiau a cloc. Os ydio’n dri o’r gloch ar y coch, dwi’n gorfod symud y bar tactile ar y bwa.”

Mae Nick yn athletwr o fri. Mae wedi bod yn bencampwr 100m a naid hir Prydain yn ogystal a pêl-droed futsal pump-bob-ochr i dîm nam-golwg Lloegr – am nad oedd yna dîm yng Nghymru.

Mae hefyd yn mwynhau dringo a chanwio. Fe gariodd y dorch Olympaidd yn 2012.

Bydd yn hedfan i Rhufain ben bore, Llun Mai 20fed a hedfan adra ar y dydd Sadwrn. Fydd yna ddim llawer o amser i gael gweld yr atyniadau.

Meddai Nick, sydd a gradd gwyddor chwaraeon: “Dwi’n teimlo yn lwcus mod i yn cael y profiadau yma a mor ddiolchgar i ‘nheulu sy wedi fy nghefnogi. Mae nhw wedi gorfod aberthu lot o amser hebdda fi i fy nalluogi i gyrraedd y lefel yma."

Gwaith Nick gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor ydi rhoi cymorth i bobol efo nam golwg wneud tasgau a gwaith yn annibynol.

Meddai: “Dwi yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth Tim GB ac rwy’n gobeithio y byddaf yn medru annog mwy o bobl ifanc sydd â nam golwg i fwynhau chwaraeon a gwneud pob dim gyda’u bywydau.”

“Os hoffan nhw wybod mwy, mae croeso iddyn nhw gysylltu gyda fi neu’r Gymdeithas.”

nick thomas mewn cystadleuaeth saethyddiaeth