Basged (0) Mewngofnodi

Nick yn cipio ei drydedd fedal aur o fewn wyth mis!

Mae para-saethydd sy’n gweithio gyda’r deillion wedi ennill ei drydedd fedal aur mewn wyth mis!

Mae Nick Thomas, 48, o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, wedi’i gofrestru yn ddall ac yn gweithio fel swyddog datblygu gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor, Gwynedd.

Daeth yn bencampwr para-saethyddiaeth y byd yn Ne Corea fis Medi diwethaf gan ennill medal aur.

Ennillodd ei ail fedal aur arall ym mhencampwriaeth dan do Chwaraeon Deillion Prydain (BBS) yn Lilleshall, Shropshire fis Ebrill.

A’r penwythnos diwethaf (Mai 2, 2026) enillodd Nick ei drydedd fedal aur ym mhencampwriaethau para-Ewrop yn Rhufain.

Dywedodd Nick: “Curo pencampwriaeth y byd ydi’r uchafbwynt. 

“Ond mae curo pencampwriaeth Prydain a phencampwriaeth Ewrop i gyd o fewn wyth mis o’i gilydd yn creu teimlad o falchder mawr, ‘mod i wedi gallu cadw'r lefel o gystadlu yn gyson.”

Nick yw’r trydydd i ddal pencampwriaeth y byd a phencampwriaeth Ewrop yr un tro.

“Dydio ddim yn beth hawdd i’w wneud!” meddai.

Mae’n cyfaddef nad oes ‘na ddim byd uwch i ymgyrraedd ato ar hyn o bryd na’r hyn mae o eisoes wedi ei gyflawni.

Ond fe fyddai wrth ei fodd pe byddai para-saethyddiaeth yn cael ei gynnwys o fewn y Paralympics.

Tra’i fod eisiau mwynhau ei lwyddiant rŵan, dydio’n bendant ddim am roi’r gorau i gystadlu.

Mae’n parhau i fod yn ffit ac o’r farn fod ganddo “ddigonedd o flynyddoedd o’i flaen.”

Meddai: “Dwi am drio i barhau i saethu cyn hired a medrai - tra dwi’n ei fwynhau o.”

Mae Nick yn ddiolchgar i’w deulu a theulu ei frawd-yng-nghyfraith, Tom Hutton, sef ei ‘sbotar’ sy’n helpu para-saethwyr i ddisgrifio lleoliad y saethau a hefyd canolfan Talysarn, Dyffryn Nantlle am adael iddo hyfforddi yno am ddim.

Gobeithio fod ganddo ddigon o lefydd yn ei gartref i arddangos yr holl fedalau aur!