Nick yn coroni blwyddyn wych o gystadlu yng Ngwobrau Chwaraeon Gwynedd
Mae swyddog gyda Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru wedi coroni blwyddyn wych o lwyddiannau para-saethyddiaeth gan ddod yn ail yng Ngwobrau Chwaraeon Gwynedd 2024.
Mae Nick Thomas, 46, o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, Gwynedd wedi ei gofrestru yn ddall ac yn gweithio i’r Gymdeithas ym Mangor.
Er gwaethaf fod ganddo gyflwr o’r enw Stargardt ers ei fod yn 18 oed, mae Nick wedi bod yn llwyddiannus iawn fel pêl-droediwr yn chwarae i dîm rhannol-ddall Lloegr ac yn fwy diweddar fel para-saethydd.
Yr wythnos ddiwethaf cafodd Nick, sy’n briod gyda Marie ac sy’n dad i Cadi a Hari, yr ail wobr yn y categoriy ‘Athletwr Hyn Elît y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Chwaraeon Byw’n Iach Gwynedd 2024.
Cynhaliwyd y seremoni yn Galeri, Caernarfon.
Yn gyntaf oedd y seiclwr lôn Gareth McGuinness gyda John Bennett o Glwb Hoci Dysynni, Tywyn yn drydydd.
Wrth gyflwyno Nick, dywedodd Morgan Jones: “Er gwaethaf iddo gael blwyddyn heriol o ddioddef dwy strôc o fewn 15 mis - mae Nick wedi parhau’n bositif a gweithio’n galed iawn i baratoi ei hun i gystadlu a bod yn fodel rôl gadarnhaol i’w deulu a’i gefnogwyr.
“Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus mewn cystadlaethau – y llwyddiant cyntaf ym mis Chwefror lle enillodd faes cystadleuol iawn i fod yn bencampwr dan do Prydain am y tro cyntaf.
“Yn dilyn hyn, enillodd y fedal efydd wrth gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Para Saethyddiaeth Ewrop yn Rhufain, fis Mai.
“Cynhaliwyd dwy gystadleuaeth ola’r flwyddyn yn Lilleshall ddechrau mis Medi – y National Disability Championships a’r British Sports Outdoor Championships, ble enillodd Nick ddwy fedal arian a’r lle i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Para-Saethyddiaeth y Byd fis Medi 2025 yng Nghorea.”
Wedi’r seremoni, dywedodd Nick: “Mae cael fy enwebu am y wobr yma yn anrhydedd i fod yn onest. I gael fy nghynnwys ar y rhestr fer gyda’r enwau eraill a gweld beth mae nhw wedi’I gyflawni dros y flwyddyn, mae’n bleser go iawn.
“Dwi’n meddwl fod y talent sydd yn y sir a be mae nhw yn ei gyflawni ar y llwyfan rhyngwladol yn wych. Mae hefyd yn dangos fod yr holl waith caled a’r aberthu yr ydw i a fy nheulu yn gorfod ei wneud yn cael ei weld a’i gydnabod.”
Llun yn dangos Nick Thomas, canol, yn derbyn ei wobr, gyda Daniel Joyce, chwith a Paul Jones, dde, o Byw’n Iach, Gwynedd. (SportpicturesCymru)