Basged (0) Mewngofnodi

Nick yn cyfri’r dyddiau tan bencampwriaethau para-saethyddiaeth y byd yn Ne Corea

Mae dyn o Wynedd am wneud ei “orau glas” i gipio medal aur ym Mhencampwriaeth Para-Saethyddiaeth y Byd yn Ne Corea mewn ychydig dros wythnos.

Mae Nick Thomas wedi’i gofrestru’n ddall ac mae’n gweithio fel swyddog datblygu gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor, Gwynedd.

Yn athletwr o fri. mae Nick yn gyn-bencampwr 100m a naid hir Prydain ac wedi chwarae pêl-droed futsal pump-bob-ochr i dîm nam-golwg Lloegr – am nad oedd yna dîm yng Nghymru.

Mae hefyd yn bara-saethyddwr profiadol ac wedi ennill medalau ym mhencampwriaethau Prydain, Ewrop a’r Byd.

Mae para-saethyddion yn saethu’r saethau eu hunain - er nad ydyn nhw yn medru gweld y targed.

Yn lle hynny, mae gan bob un saethwr ‘sbotar’ sy’n eistedd metr tu ôl iddyn nhw.

Ond d’oes gan y sbotar ddim hawl i wneud unrhyw hyfforddi heblaw dweud wrth y saethydd ble mae’r saethau’n glanio ar y targed.

Maen nhw yn defnyddio system lliwiau a chloc i ddisgrifio safle’r saeth. Er enghraifft, os yw’r saeth yn glanio tri o’r gloch ar y coch yn lle’r canol melyn, mae’r saethydd wedyn yn medru addasu ychydig ar ei fwa.

Ond rhaid bod yn gyflym oherwydd mae’n ofynnol saethu’r saethau o fewn ychydig funudau yn unig!

Gwraig Nick, Marie, yw ei sbotar fel arfer ond ei frawd-yng-nghyfraith, Tom Hutton, fydd yn mynd gyda fo i ddinas Gwangju yn Ne Corea.

Bydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal yno rhwng Medi 21-29 ac mae Nick, 47, o Dalysarn, Dyffryn Nantlle yn cyfri’r dyddiau tan hynny!

Mae Nick wedi cael ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr ond mae’n benderfynol o gadw’i draed ar y ddaear.

Meddai: “Rhaid i fi goelio mod i yn ddigon da i guro neu ‘dwi ddim yn meddwl bod 'na bwynt imi fynd.

“Rhaid iti gredu ynot ti dy hun; rhaid iti gael ychydig bach o hyder ac arrogance efallai.

“Dwi’n mynd i drio fy ngorau glas a’r gobaith ydi fod fy ngorau glas i ar y diwrnod yn mynd i fod yn ddigon i guro.”

Meddai: “Dwi ‘di cystadlu mewn nifer o wahanol lefydd . . . Rhufain, Gweriniaeth Tsiec, yr Iseldiroedd a Ffrainc ond mae mynd i gystadlu yn Ne Corea yn gam i fyny.

“Dwi di paratoi mwy am hwn na’r un gystadleuaeth arall dwi wedi’i wneud yn y gorffennol.”

Mae saethyddiaeth yr un mor boblogaidd â phêl-droed yn Ne Corea ac mae ‘na gynghrair proffesiynol yno.

Mae Nick wedi’i ysbrydoli gan y lleoliad yn Gwangju sydd â chanolfan saethyddiaeth bwrpasol.

Meddai: “’Dwi yn edrych ymlaen at glywed iaith Corea yn cael ei siarad a gobeithio pigo fyny un neu ddau o eiriau.”

Ar ôl cyrraedd Gwangju bydd yn treulio’r diwrnod cyntaf yn ymgyfarwyddo ei hun a’r lle a dod dros y jet lag.

Bydd yna ddiwrnod o ymarfer answyddogol ac amser i wirio ei offer a dod i arfer efo’r synau, y gwynt, y twrw a’r prysurdeb cyn cael diwrnod o ymarfer swyddogol.

Y pryd hynny bydd y cystadleuwyr yn gwisgo ei cit llawn ac ymarfer ar y targedau yn y rownd gymhwyso.

Caiff y cystadleuwyr bedwar munud i saethu 6 saeth – cyfanswm o 72 saeth - at darged 30 metr i ffwrdd sy’n cael eu sgorio.

Yna bydd rownd “penben” pan saethir tair saeth mewn dau funud cyn y gystadleuaeth olaf am y medalau a gynhelir ym mhrif sgwâr y ddinas.

Meddai Nick: “Dwi’n mwynhau’r awyrgylch yna, pobl yn bloeddio a chymeradwyo ac yn clwad y miwsig yn mynd rhwng y saethu.  Mae hynny yn fy ymlacio.

“Pan ti’n saethu ma’ pawb yn dawel.”

Bydd yn bosib dilyn cynnydd Nick ar ein cyfryngau cymdeithasol.