Nick yn disgrifio’r ewfforia ar ôl ennill medal aur yn Ne Corea
Mae dyn o Wynedd wedi disgrifio’r “ewfforia” o ennill medal aur ym Mhencampwriaeth Para-Saethyddiaeth y Byd yn Ne Corea.
Roedd Nick Thomas o Dalysarn yn Nyffryn Nantlle yn cynrychioli Prydain yn y gystadleuaeth yn Gwangju, gan ennill categori ar gyfer pobl gyda nam ar eu golwg.
Mae gan Nick, 47, gyflwr o'r enw Stargardt Macular Dystrophy, ac mae wedi cofrestru'n ddall.
Mae’n gweithio fel swyddog datblygu gyda Chymdeithas Ddeillion Gogledd Cymru ym Mangor.
Er ei fod wedi bod yn rhan o seremonïau gwobrwyo o’r blaen, roedd o’n “wahanol” y tro yma, meddai Nick sy’n gyn-bencampwr Prydain yn y 100 metr a'r naid hir.
“Dwedais wrthyf fy hun: ‘Nick, ti sydd ar y stepen top y tro ‘ma; yn y canol; yn sefyll rhwng y ddau arall, ddim ar yr ochor blaen lle mae’r efydd neu’r cefn lle mae’r arian; dwi yn y canol sydd yn golygu mai fi ydi’r aur, y top boy.
Meddai: “Ti yn gweld y rhif un a ti’n meddwl, ‘Fi sy wedi curo hwn de!’ Maen nhw yn cyhoeddi dy enw di a galw chdi yn bencampwr y byd a phawb yn cymeradwyo . . . a ti’n gweld y fedal aur a ti’n meddwl, ‘I fi ma’ hwnna!’ Fi sy’n cael hwnna!’
“Mae o’n ewfforig; ma’ dy waed di yn rhedeg; ma’ dy galon di’n curo, ma’ pob dim yn dod at ei gilydd.
“Ti’n cael sioc pan ti’n cael y fedal rownd dy wddf a sylwi faint o drwm ydio, faint o sgleinio mae o. Mae’n brofiad bythgofiadwy.”
Meddai Nick, sy’n briod gyda Marie ac yn dad i Cadi a Hari: “’Dwi ‘rioed wedi teimlo’r fath beth o’r blaen. Mae ‘run fath a bod pob emosiwn yn hitio chdi ar yr un amser.
“Ti’n teimlo’n hapus; ti’n teimlo fod yna lot o bwysau wedi cael ei dynnu oddiar dy ysgwyddau. Am ryw reswm rhyfedd, ti’n teimlo’n drist ac yn sâl hefyd!”
Wedi iddo gael munud distaw iddo ei hun, dywedodd Nick mae’r hyn ddaeth i’w feddwl oedd: “Dwi wedi gweithio yn galed amdano fo, yn enwedig dros y chwe mis diwethaf. Dwi wedi rhoi pob dim i mewn iddo fo - ac mae o wedi talu.”
Cyrhaeddodd Nick yn ôl gartref wedi bron i ddeuddydd o deithio.
Meddai: “Roedd fy ngwraig, y plant a mam wrth eu boddau. ‘Dwi ddim yn meddwl ei fod o wedi suddo mewn i gyd.
“Roedd un o bobl y pentref wedi addurno’r tŷ i gyd efo bunting a baner Cymru. Roedd yn sioc neis cael fy nghroesawu adra fel arwr!”
Er ei anabledd, mae Nick yn cyfrif ei hun yn lwcus iawn.
Meddai: “Mae o’n rwbath rhyfedd o gwmpas y byd chwaraeon anabledd; dwi yn teimlo mod i wedi bod yn ofnadwy o lwcus cael cynrychioli fy ngwlad mewn tri chwaraeon gwahanol - athletau, pêl-droed a saethyddiaeth.
“’Dwi ‘di cael teithio rownd y byd yn gweld llefydd ac i gyd oherwydd mod i ‘di bod yn anlwcus o gael nam ar y golwg.”
Mae Nic wedi cystadlu yn Ewrop, Gogledd a De America ac Asia.
Meddai: “Yn sicr faswn i byth wedi gallu eu gwneud heb y nam golwg. ‘Dwi yn teimlo mod i wedi bod yn lwcus o fod yn anlwcus.”
Hoffai Nick ddiolch i bawb sydd wedi ei gefnogi dros y blynyddoedd.
“Mae cael negeseuon gan bawb wedi fy llenwi fi efo hyder cyn mynd i ffwrdd ond hefyd wedi ychwanegu ychydig bach at y teimlad o bwysau ar fy ysgwyddau. ‘Dwi yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth.”
Dywedodd fod De Corea yn lle cyfeillgar iawn ond fod y gystadleuaeth yn “ffyrnig” a phawb ar dop eu gêm. Mae saethyddiaeth yn boblogaidd iawn yno ac yn un o'r campau cenedlaethol.
Brawd-yng-nghyfraith Nick, Tom Hutton, oedd ei spotter yn Ne Corea sef y person sy'n esbonio ble mae'r saeth wedi glanio.
Mae Nick nawr am gymryd seibiant byr cyn paratoi at ei her fawr nesaf sef pencampwriaethau para-saethyddiaeth Ewrop, sy'n digwydd yn Rhufain y flwyddyn nesaf.
Meddai: "Hoffwn fod yn bencampwr y byd a phencampwr Ewrop ar yr un pryd – dyna'r cynllun nesaf.”




