Nifer dda yn cerdded at Raeadr Abergwyngregyn!
Daeth 29 o gerddwyr a chwech ci ar ein taith ddiweddaraf i Raeadr Abergwyngregyn, ger Bangor, Gwynedd.
Fe wnaeth pawb fwynhau, er gwaetha'r tywydd glawog.
Fe ymunodd y darlledwr Gerallt Pennant gyda ni ar y daith 5 milltir gyda aelodau ein Clwb Cerdded Eryri Walking Club yn cael eu holi ganddo ar gyfer rhaglenni Prynhawn Da a Heno S4C ar S4C
Bydd ein stori ni yn cael ei darlledu un o'r dyddiau nesaf yma. Da ni gyd yn edrych ymlaen at hynny!
Diolch yn fawr i un o'n gwirfoddolwyr, Karen Chidley, am dynnu'r lluniau.
- Aelodau o'r gymdeithas yn bwyta eu cinio wrth eistedd ar wal
- Aelodau o'r gymdeithas yn siarad â'i gilydd gyda'u cŵn tywys
- Aelodau o'r gymdeithas yn sefyll drws nesaf i'w gilydd gyda coedwig yn y cefndir
- Grŵp o dîm cynhyrchu teledu yn siarad ag aelod o'r gymdeithas
- Aelod o'r gymdeithas gyda'i gi tywys yn siarad â phobl eraill





