Basged (0) Mewngofnodi

Nofelau Rhian nawr ar gael fel llyfrau llafar!

Wrth inni agosáu at y Nadolig, beth well na eistedd lawr i wrando ar lyfr llafar diddorol?

Mae ‘Gwaddol’ wedi’i ysgrifennu gan Rhian Cadwaladr a hi hefyd sy’n darllen y fersiwn llyfr llafar.

“Mae Myfi ar drothwy ei phen-blwydd yn 80. Mae ei phlant wedi penderfynu trefnu parti syrpreis iddi, ond sut mae gwneud hynny heb ffraeo.”

Dyma Rhian ei hun i sôn mwy am ei llyfr yn y ddau fideo yma.

Mae ‘Gwaddol’ ar gael o’ch llyfrgell leol.

Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch.

Recordiwyd y fersiwn llyfr llafar gan Gymdeithas Ddeillion Gogledd Cymru yn ein stiwdio GWRANDO ym Mangor.