Basged (0) Mewngofnodi

'O na fyddai’n Haf o hyd!’ rwan ar ffurf llyfr llafar i’r deillion!

Mae hanes merch sydd wedi hel miloedd o bunnoedd at achosion da nawr ar gael fel llyfr llafar fel bod deillion a phobl gyda nam golwg yn medru ei fwynhau.

Dros y blynyddoedd mae Haf Thomas wedi hel dros £60,000 i elusennau fel Tŷ Gobaith, Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Yn ogystal â hynny, mae’r ferch wirioneddol wych hon wedi codi bron £5,000 i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru.

Mae’r arian wedi cael ei ddefnyddio i dalu am ddarparu cyfrifiaduron a meddalwedd arbenigol i alluogi plant sydd wedi colli’u golwg i ddysgu a dod yn fwy annibynnol.

Cyhoeddwyd cofiant Haf - ‘O na fyddai’n Haf o hyd!’ – flwyddyn yn ôl. Fe’i golygwyd gan y prifardd Ifor ap Glyn a’i gyhoeddi gan Carreg Gwalch.

Mae Haf yn ymwybodol iawn o anghenion y deillion ac yn deall pwysigrwydd bod yn hygyrch.

Felly, penderfynodd y Gymdeithas - sydd a’i ganolfan yn Stryd Fawr, Bangor - gynhyrchu fersiwn llyfr llafar i sicrhau fod y deillion a phobl sy’n byw gyda nam golwg yn cael cyfle i’w fwynhau.

Mae Haf wrth ei bodd gyda’r fersiwn newydd – yn enwedig gan mai ei chwaer, Ffion Orwig, sy’n ei ddarllen.

Mae ar gael i’w brynu gan y Gymdeithas neu ei fenthyca o’r llyfrgell.

Ganwyd Haf, 54, o Llanrug, Gwynedd yn 1971 gyda syndrome Down’s.

Ond ni wnaeth hynny ei dal yn ôl o gwbl – ac mae wedi mwynhau bywyd llawn gan gynnwys gweithio i Gyngor Gwynedd am 29 o flynyddoedd cyn ymddeol.

Mae ei theulu a’i chymuned yn gefn iddi – ac yn y gyfrol mae’n adrodd ei stori ei hun gyda chymorth ei dyddiadur a’i llyfr lloffion sy’n llawn atgofion melys.

Mae Haf wedi bod yn ecstra ar Pobol y Cwm ac wedi cyfarfod ag enwogion fel Hywel Gwynfryn a Westlife.

Mae Haf hi’n parhau i godi arian i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru drwy gasglu stampiau o bob math sydd wedyn yn cael eu didoli a’u gwerthu fel elw i’r Gymdeithas.

Meddai Haf: “Gobeithio y gwnewch chi fwynhau gwrando ar y stori hon, ‘O na fyddai’n Haf o hyd!”

  • Haf Thomas holding her audio book O na fyddai'n Haf o Hyd
  • Haf Thomas collection stamps to raise money for the North Wales Society of the Blind