Para-saethydd yn anelu i guro dwy gystadleuaeth mewn un penwythnos!
Mae dyn o Wynedd yn anelu i fod yn bencampwr Prydain mewn dwy gystadleuaeth saethyddiaeth y penwythnos yma.
Mae Nick Thomas, 46, o Talysarn, Dyffryn Nantlle, yn hyderus y gall guro’r ddwy – os yw’n hollol ffit. Ond ei darged yw gorffen y cystadleuthau a bod yn hapus gyda’i saethu.
Meddai: “Dwi ddim angen curo rhain ond cyrraedd sgôr arbennig sy’n ddigon da imi fedru ymuno gyda sgwad Prydain Fawr.”
Byddai llwyddiant tebyg yn ei alluogi i gystadlu ym mhencampwriaeth y Byd yn 2025 fydd o bosib yn Ne Corea.
Ddydd Sadwrn (Medi 14) bydd yn cystadlu yn y Worshipful company of Fletchers, National Disability Championships. Mae wedi bod yn ail yn y gystadleuaeth yma bedair gwaith o’r blaen.
Yna, bydd yn cystadlu yn y British Blind Sports National Championships ar y dydd Sul. Fe gurodd Nick y gystadleuaeth yma’r llynedd. Y salaf mae o wedi ei wneud o’r blaen yw bod yn drydydd!
Cynhelir y ddwy gystadleuaeth yn Lilleshall ger Telford. Bydd Nic yn y category neu ddosbarth B2/3.
Mae’r cystadleuaethau yn agored i bawb ym Mhrydain. Disgwylir o leiaf 100 o saethwyr gan gynnwys rhai fu’n cystadlu yng Ngemau Paralympaidd Paris.
Mae Nick – sy’n briod a Marie, 42, ac yn dad i Cadi, 14 a Hari, 10, wedi ei gofrestru yn ddall ac yn gweithio fel swyddog datblygu gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor.
Mae wedi ennill medalau aur ym Mhencampwriaethau Prydain y tu allan ac o dan do; un arian yn Gêmau’r Byd, dwy efydd ym Mhencampwriaethau’r Byd a dwy efydd ym Mhencampwriaeth Ewrop.
Ei wraig, Marie, fydd ei sbotar y tro yma. Mae’r sbotar yn eistedd un metr tu ôl i’r saethwr – ond nid oes hawl iddyn nhw wneud unrhyw hyfforddi heblaw dweud ble mae’r saeth yn glanio ar y targed.
Meddai Nick: “Mae gen i benwythnos caled o saethu o ‘mlaen. Ers imi gael ail stroc fach tua mis yn ôl, mae gen i ‘chydig o wendid yn fy ochr chwith. Mae fy saethu i wedi gwella.
“Os baswn i yn 100 y cant ffit, baswn i yn gallu curo’r ddwy (gystadleuaeth) – dwi’n ddigon ffyddiog o hynny.”
Mae Nick yn athletwr o fri. Mae wedi bod yn bencampwr 100m a naid hir Prydain yn ogystal a pêl-droed futsal pump-bob-ochr i dîm nam-golwg Lloegr – am nad oedd tîm yng Nghymru.
Mae hefyd yn mwynhau dringo a chanwio. Fe gariodd y dorch Olympaidd yn 2012.
Llun: Nick Thomas. Mwy o wybodaeth: Ffoniwch Nick Thomas, 01248 353604.
- Nick Thomas yn saethu yn Rhufain
Nick Thomas yn saethu yn Rhufain