Pawb yn mwynhau cinio Nadolig Clwb Bae Colwyn
Daeth dros 20 o aelodau Clwb Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru i fwynhau eu Cinio Nadolig blynyddol ddoe.
Fe wnaeth pawb fwynhau’r wledd oedd ar gael yng Ngwesty’r Orsaf (Station Hotel) ym Mae Colwyn.
Dywedodd un o’r trefnwyr, ein swyddog ymgysylltu Bethan Sage Williams: “Roedd hi'n hyfryd gweld pawb yn mwynhau eu hunain.
“Roedd y bwyd yn flasus iawn ac roedd y staff yn sylwgar iawn.”
Dywedodd Polly sy'n gofalu am y clwb: "Roedd hyn yn ffordd hyfryd o orffen y flwyddyn gyda phawb gyda'i gilydd yn cael hwyl.
“Rydan ni i gyd yn edrych ymlaen at dripiau allan yn y flwyddyn newydd a gobeithio denu rhagor o aelodau.
Dywedodd un o’r aelodau: "Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru am drefnu popeth heddiw a hefyd y criw o wirfoddolwyr.
“Dw i'n dod yma ddwywaith y mis a ‘dwi wastad yn teimlo’r croeso. Dwi hefyd yn mwynhau'r parti yma bob blwyddyn.”
Mae'r Clwb yn cyfarfod bob ail a phedwerydd dydd Llun yn y mis o 11-1yp ym @20, Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn.
Ffoniwch Bethan Sage Williams ar 01248 353604 am fwy o fanylion.
- Ci tywys un o'r myfyrwyr y grwp cerdded
- Pobl yn mwynhau cinio nadolig
- Pobl yn siarad ac yn bwyta cinion nadolig
- Pobl yn siarad gyda ei gilydd ac yn bwyta cinio nadolig
- Pobl yn dechra bwyta cinio nadolig
- Myfyrwyr y clwb yn mwynhau cinio nadolig
- Dau person yn gafael mewn cracyr
- Pobl yn siarad ac yn mwynhau parti nadolig
- Dau person yn mwynhau parti nadolig
- Dau person yn barod i fwyta ei cinio nadolig
- Person yn gwenu ac yn mwynhau parti nadolig
- Dau person yn mwynhau parti nadolig
- Person yn rhoi grefi ar ei cinio nadolig
- Person yn rhoi grefi dros ei ginio nadolig
- Person yn bwyta cinio nadolig
- Person mewn jwmper coch yn mwynhau parti nadolig
- Pobl yn mwynhai ei cinio nadolig