Basged (0) Mewngofnodi

Rhagor o westai yn ymuno gyda Bethan tra’n Meddwl yn Wahanol

Mae Bethan Richards yn fam, yn wraig, yn gynhyrchydd radio ac yn gantores. Mae hi hefyd yn ddall.

Yn y podlediad 'Meddwl yn Wahanol' ar BBC Sounds mae Bethan yn sgwrsio gyda tri o bobol sydd, fel hithau, yn anabl.

Dyma’r ail gyfres lle bydd Bethan yn sgwrsio gyda Paul Davies, Hollie Crooks a Gwennan Young sydd hefyd yn ddall.

Meddai Bethan: “Dyma straeon gafaelgar, emosiynol ac amrwd, sydd yn dathlu buddugoliaethau bywyd ac yn herio’r delweddau o ‘anabledd’.

“Mae'n gyfres llawn hwyl, gyda ambell ddeigryn bach. Straeon pobol, negeseuon pwysig, rhannu profiadau, a dysgu o’n gilydd.”

Mae'r podlediad hwn yn Gymraeg ond mae trawsgrifiad llawn ar gael.

Dyma glip o’r sgwrs gyda Gwennan i roi blâs ar y cynnwys.

Mae sgyrsiau gyda tri pherson arall hefyd o’r gyfres gyntaf hefyd ar gael ar BBC Sounds.

Cyfres 2, Pennod 3 : Gwennan Young

Lluniau: Bethan with Paul Davies, Hollie Crooks and Gwennan Young