Rhedwr dall cyntaf i redeg Râs yr Wyddfa yn cyflwyno arian i’r Gymdeithas
Mae’r rhedwr dall cyntaf i redeg Râs yr Wyddfa wedi cyflwyno’r arian a gasglodd er budd aelodau Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
Llwyddodd Gareth Davies, 52 oed, o’r Fenni, i gwblhau’r cwrs anodd wyth milltir o hyd mewn 2 awr a 54 o funudau.
Mae Gareth, sydd wedi ei gofrestru’n ddall, yn arweinydd Prosiect 'See Cymru Differently' gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB).
Dywedodd Gareth: “Mae gen i Retinitis Pigmentosa – dim ond 10% o olwg dda sydd gen i yn fy llygad chwith a dim golwg o gwbl yn fy llygad dde. Ar wahân i’r 10% da, mae popeth yn un niwl mawr.
“Y canlyniad yw ei bod hi’n anodd i mi lywio fy ffordd o gwmpas ac ni allaf weld dim byd o gwbl yn y tywyllwch.
“Mae llacharedd yr haul hefyd yn effeithio’n fawr arnaf. Yn ddyddiol, rwy’n cario ffon symbol (ffon wen fach i ddangos i bobl eraill fod ganddo nam golwg) rwy’n ei defnyddio mewn mannau prysur ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
“Cyflwr dirywiol ydyw, felly mae’n debygol y bydd y 10% hwnnw’n diflannu yn y blynyddoedd i ddod.
“Cefais ddiagnosis o RP yn niwedd fy arddegau a chael fy nghofrestru’n ddall tua 11 mlynedd yn ôl.
“Wedi dweud hynny, fy arwyddair mewn bywyd yw bod “golwg yn fater o feddylfryd” ac nid yn rhywbeth ffisegol. Mae’r agwedd hon yn fy ngalluogi i redeg gyda thywysydd a gwneud pethau fel Râs yr Wyddfa.”
Wrth egluro’r rheswm pam ei fod eisiau codi arian ar gyfer y Gymdeithas, meddai:
“Yr adeg hon y llynedd, ês i ar un o deithiau cerdded y Gymdeithas ym Mhen-y-Pas uwchben Llanberis.
“Cefais groeso cynnes dros ben, ac wrth siarad ag aelodau'r grŵp yn ystod y daith gerdded ac yn eu Parti Nadolig yng nghlwb rygbi Bethesda, gwelais faint mae gwaith y Gymdeithas yn ei olygu i bobl ddall a rhai â nam golwg yng Ngogledd Cymru.
“Fel rhywun sydd wedi'i gofrestru'n ddall fy hun, roeddwn i'n gallu uniaethu'n llwyr â'r ymdeimlad hwn o berthyn.
“O ystyried lleoliad Râs yr Wyddfa, roedd codi arian ar gyfer y Gymdeithas yn gam hollol briodol.”
Disgrifiodd Gareth y râs fel un “anodd iawn ond yn bleserus dros ben.”
Meddai: “Roeddwn i wedi hyfforddi'n galed gyda fy rhedwr tywys, Brett, ac wedi gwneud y milltiroedd a mynd i'r afael â'r codiadau tir dros y misoedd diwethaf yn y Mynyddoedd Duon o amgylch y Fenni ac yng Nghymoedd De Cymru.
“Er fy mod i'n teimlo'n hyderus, roeddwn i'n bryderus ynghylch cyrraedd Gorsaf Clogwyn cyn y terfyn amser o awr a 15 munud; unwaith inni lwyddo i wneud hynny, teimlais yn fwy hamddenol.
“Yn fuan wedyn, cyrhaeddais y copa a gweld ffenomen anhygoel lle'r oedd y cymylau yn isel yn y dyffrynnoedd (cloud inversion).
“Roedd rhedeg i lawr Yr Wyddfa yn fwy heriol gan fod angen inni ganolbwyntio llawer mwy ar agweddau technegol y llwybr, ond llwyddais i symud yn gyflym ar y rhannau mwy gwastad.
“Gwnaeth cymuned Llanberis y diwrnod yn arbennig iawn, ac roedd eu cefnogaeth yn wych.”
Meddai: “Roeddwn i hefyd wrth fy modd pan gadarnhaodd cyfarwyddwr y râs mai fi oedd y rhedwr dall cyntaf i gymryd rhan yn hanes 49 mlynedd Râs yr Wyddfa.
“I mi, nid mater o fod y cyntaf ydyw, ond sicrhau nad fi fydd yr olaf. Gobeithio y bydd rhedwyr eraill sy'n ddall neu â golwg rhannol yn gweld y gellir gwneud hyn, ac yn cymryd rhan yn y râs hon a rasys llwybrau neu fynyddoedd eraill yng Nghymru a thu hwnt.
“Rwyf bellach yn edrych ymlaen at ychydig mwy o rasys mynydd y flwyddyn nesaf, gan gynnwys Ben Nevis a'r Montane Lakeland 50 yn Cumbria.
“Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at fynd ar daith gerdded arall gyda Grŵp Cerdded Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd prif weithredwr y Gymdeithas, Steven Thomas: “Diolch yn fawr iawn i Gareth am ymdopi â Ras yr Wyddfa a diolch am godi swm gwych o £150 i'r Gymdeithas.
“Gan gadw at thema mwynhau'r awyr agored, rwy'n credu y byddai'n briodol defnyddio'r arian i gefnogi ein Clwb Cerdded Eryri, yn benodol i helpu i dalu costau cludiant ar un o'u teithiau.”
“Y ffordd hawsaf i unrhyw un sydd eisiau cyfrannu arian i’r Gymdeithas fyddai drwy'r botwm 'Rhoi Rhodd' ar ein gwefan.”
Yn y cyfamser, mae Gareth wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr 'National Park Protector' gan y Campaign for National Parks oedd yn “syndod hyfryd ac anrhydedd mawr,” meddai.
Dywedodd Gareth: “Trwy fy ngwaith gyda See Cymru Differently, rydw i wedi bod yn ffodus i gydweithio â phobl a sefydliadau anhygoel sy'n ymroi'n llwyr i wneud ein tirweddau a'n harfordiroedd yn fwy hygyrch a chynhwysol i bobl fel fi, sy'n byw gyda nam golwg.
“Mae'r enwebiad hwn yn adlewyrchu'r partneriaethau, y perthnasoedd a'r ymdrechion ar y cyd hynny cymaint ag y mae'n adlewyrchu unrhyw beth rydw i wedi'i gyflawni'n bersonol.
“Pe bawn i'n ddigon ffodus i ennill, byddai'n rhoi llwyfan gwerthfawr i dynnu sylw pellach at y gwaith rydyn ni'n ei wneud gyda'n gilydd.
“Byddai'n helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mynediad cynhwysol i natur a pharciau cenedlaethol/tirweddau, yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio, ac yn helpu i gyrraedd mwy o bobl a allai elwa o ymgysylltu â'n mannau awyr agored gwych.
Meddai: “Byddwn yn hynod ddiolchgar pe baech yn ystyried cymryd eiliad i bleidleisio drosof yn y categori 'People’s Choice' trwy'r ddolen.



