Rhybudd ein taith nesaf, dydd Mercher, Medi 18, 2024 i Pentrefelin, Cricieth
Bydd ein taith Clwb cerdded Eryri y mis yma yn cychwyn am 11.30yb o Pysgotfa Eisteddfa, Pentrefelin ger Cricieth.
Mae perchnogion y caffi yma yn garedig iawn wedi rhoi caniatad inni ddefnyddio’r cyfleusterau cyn dechrau cerdded.
Byddwn yn croesi drwy’r caeau i Eglwys Cynhaearn (felly cofiwch wisgo esgidiau addas) lle gawn ni ysbaid am ginio ac yna cylch yn ôl i Eisteddfa erbyn tua dau o’r gloch.
Mae ‘chydig o dynnu fyny yma,
Bydd cyfle i ni gael paned a chacen yno cyn i’r bws gychwyn yn ôl am Fangor am 3yp.
Rhyw 3.5 milltir yw hyd y daith.
Arweinydd y daith fydd Marian Jones, Pwllheli,
Ein cyswllt symudol ar y diwrnod yw 07949 996405
Bydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind yn trefnu bws i adael swyddfeydd y Gymdeithas yn 325, Stryd Fawr, Bangor am 10:15yb, gan godi yn Morrisons Caernarfon tua 10:30yb.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld chi i gyd.
Byddwn yn gohirio’r daith os bydd tywydd garw.
Os bydd angen i ni wneud penderfyniad i ganslo, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a neges destun erbyn 6yh ar y noson cyn y daith gerdded.
Wrth ymateb i'r e-bost hwn a allech gynnwys rhif ffôn symudol lle gallwn anfon negeseuon testun os gwelwch yn dda.
Mae’n bwysig, os ydych yn bwriadu ymuno â ni, eich bod yn rhoi gwybod i Bethan cyn gynted â phosibl fel y gallwn drefnu’r hyfforddwr priodol ar admin@nwsb.org.uk neu 01248 353604.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i ni:
- A fyddwch chi'n ymuno â ni ar y daith gerdded?
- A oes unrhyw un yn dod gyda chi?
- Oes angen gwirfoddolwr tywys â golwg arnoch chi?
- Eich rhif ffôn symudol.
- Ble byddwch chi'n cwrdd â'r grŵp?