Basged (0) Mewngofnodi

Sebona fi – sesiwn persawrus i’r aelodau!

Yn ddiweddar fe gafon ni sesiwn Celf a Chrefft ychydig yn wahanol.

Gwahoddwyd Cole & Co, cwmni sebon hyfryd sy’n adnabyddus am eu sebonau â llaw, cynhwysion naturiol a’u persawr ysgafn, ffres atom ni.

Daeth Tim, o Biwmares Ynys Môn, â detholiad o’u sebonau i ni eu arogli, ac fe wnaethom i gyd gymryd ein tro i geisio dyfalu’r aroglau.

Roeddent yn hyfryd - mor ffres ac adfywiol. 

Esboniodd Tim y broses o wneud sebon cam-wrth-gam, ac roedd gan bawb gwestiynau iddo.

Dywedodd ein swyddog ymgysylltu, Bethan, fod y grŵp wrth eu bodd yn dod at ei gilydd i wneud celf a chrefft, felly roedd heddiw ychydig yn wahanol - ond fe wnaeth pawb fwynhau’r sgwrs yn fawr. 

Cafodd pawb sebon i fynd adref gyda nhw. 

Roedd Tim yn wych gyda’r cleientiaid ac yn cymryd ei amser i ddangos popeth yn glir ac yn bwyllog.

Rydyn ni hefyd wedi cael gwahoddiad i ymweld â’u siop, Cole & Co, 17 Stryd y Castell, Biwmares Ynys Môn, LL58 8AP