Basged (0) Mewngofnodi

Sefydlu grŵp newydd i’r deillion a phobl sy’n byw gyda nam golwg ar Ynys Môn!

Mae’n bleser gennym gyhoeddi sefydlu ein grŵp newydd ar Ynys Môn! 

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Grŵp Cefnogi Golwg yn Hafan Cefni, Llangefni ddydd Mawrth, Medi 8, 2026.

Mae Hafan Cefni yn gynllun byw’n annibynnol newydd i bobl hŷn ond gyda gofal hyblyg 24 awr y dydd ar y safle a chefnogaeth yn ôl yr angen.

Mae’n cael ei redeg gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn.

Byddan ni nawr yn cynnal cyfarfodydd Grŵp Cefnogi Golwg yn Hafan Cefni, Llangefni ar ail ddydd Mawrth o bob mis.

Beth i’w ddisgwyl?: Siaradwyr gwadd yn bresennol a gwirfoddolwyr gwych i’n cefnogi.

Dewch, ymunwch â ni: Os hoffech chi gwrdd â ffrindiau newydd a chael cefnogaeth gyda nam golwg, cysylltwch â ni!

Cyswllt: Bethan 01248 353604