A- A A+

English

Sesiynau celf a chrefft yn ein canolfan adnoddau

Bydd Sesiynau celf a chrefft yn cael eu cynnal ar gyfer pobl dall a phobl gyda nam golwg yn ei canolfan adnoddau ym Mangor.

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal bod pedwerydd dydd Iau yn y mis gyda’r cyntaf ddydd Iau, Gorffennaf 24ain, 2025.

Mae’r sesiynau yn cael eu harwain gan artist lleol, Lydia Fernandez-Arias ac yn cynnwys peintio, collage, crefftau cyffyrddol a phrosiectau tymhorol

Mae’r sesiynau am ddim ac ar gael i unrhyw un sy'n byw gyda nam golwg. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

Darperir te, coffi, a chwmni da bob amser

Mae'r sesiynau hyn yn gyfle i archwilio creadigrwydd, meithrin hyder, a chysylltu ag eraill mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol.

Lleoliad: Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, 325, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YB 

Amser: 10yb-12yp

Am fwy o wybodaeth a hefyd i archebu eich lle, ffoniwch Bethan 01248 353 604 
Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind