A- A A+

English

Sesiynau dringo yn llwyddiant mawr

Roedd sesiynau dringo i blant a phobl ifanc yng nghanolfan Beacon, Caernarfon yn llwyddiant mawr gyda phawb wedi mwynhau.

Trefnwyd y digwyddiad gan Nick Thomas, swyddog datblygu gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru gyda chefnogaeth gan y Royal Society for Blind Children (RSBC) a Guide Dogs Cymru.

Roedd yn gyfle i blant a phobl ifanc sydd â nam golwg a’u teuluoedd i gyfarfod a’i gilydd a chael hwyl a rhannu profiadau a straeon.

Cynhaliwyd dau sesiwn – un ar gyfer plant rhwng 4-12 oed a’r llall i bobl ifanc 12-17.

Roedd y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant fel y bydd y Gymdeithas yn mynd ati i drefnu un arall yn y dyfodol.

Dywedodd Yusuf, un o’r bobl ifanc a gymerodd ran: “Dwi wedi mwynhau bod yn y Beacon climbing a wnes i ddysgu pethau am ddringo a ballu.”

Ychwanegodd Amir: “Diolch i’r bobl am drefnu hwn. Dwi wedi mwynhau lot.”

Dywedodd Nick, swyddog datblygu gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru: “’Da ni newydd gael sesiwn yma yng nghanolfan ddringo Beacon yng Nghaernarfon i blant a phobl ifanc sydd â nam golwg gael dod a gwneud sesiwn ddringo.

“Wnes i drefnu’r sesiwn yma gyda’r bwriad o gael plant a phobl ifanc sydd yn byw eu bywyd efo nam golwg i gael cyfarfod plant a phobl ifanc eraill sy’n mynd drwy’r un peth. Ond ar ben hynny hefyd, roedd rhieni'r plant a’r bobl ifanc yn cael cyfle i gyfarfod i ddod at ei gilydd a rhannu profiadau a chael sgwrs am y petha’ sy’n mynd ymlaen.

“Dwi’n meddwl fod y diwrnod wedi bod yn llwyddiant mawr. ‘Dwi  wedi mwynhau gweld y plant a’r bobl ifanc yn mwynhau eu hunain, yn gwthio’u hunain ac yn cymryd her i fynd fyny rhai o’r waliau yma sydd yn y Beacon.

“Da ni yn gobeithio gwneud mwy o sesiynau tebyg i hwn yn y dyfodol a chael mwy o blant a phobl a’u teuluoedd at ei gilydd eto. Diolch yn fawr iawn i bawb ddoth yma a chymryd rhan ac i’r aelodau o staff a’r timau eraill am ddod yma i’n cefnogi. Mae o wedi bod yn ddiwrnod ffantastig a da ni yn hapus iawn. Diolch yn fawr.”

Dywedodd Kim Pearson, o'r Royal Society of Blind Children: "Rydym newydd gael sesiwn hyfryd yn y Beacon Crazy Climb gyda llawer o'r plant a'r teuluoedd rwy'n gweithio gyda nhw.

"Mae wedi bod yn bleser cwrdd â phawb yn bersonol. Mae wedi bod yn ddigwyddiad gwych. Byddai'n braf cael gwneud rhywbeth fel hyn eto. Diolch yn fawr."

Ychwanegodd Jen Collins, gweithiwr adsefydlu o Guide Dogs Cymru: "Rydyn ni wedi cael bore braf yma heddiw yng nghanolfan ddringo Beacon.

“I mi, y peth gorau am y diwrnod yw gweld y plant yn cael cyfle i fod gyda phlant eraill â nam ar eu golwg o'r ardal a'r rhieni i gyd yn cael cyfle i siarad gyda'i gilydd a bod gyda'i gilydd.

"Roedd yn neis iawn i'w weld ac roedd ei angen yn fawr. Mae hi wedi bod yn fore hyfryd, felly diolch yn fawr iawn.”

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

hogyn o flaen wal ddringo
 
 
  • hogyn o flaen wal ddringo
  • plentyn yn cleimio wal ddringo
  • plentyn yn gwysgo harnes
  • plentyn yn codi bawd
  • plentyn ar dop wal ddringo
  • merch yn dringo wal ddringo
  • Plentyn yn dringo
  • hyfforddwr yn helpu plentyn
  • Plentyn yn dringo
  • 2 o blant yn y ganolfan ddringo
  • merch yn dringo fyny wal
  • plentyn yn chwarae ar ddringo grisiau
  • plentyn yn dringo tu ôl i wal wydr
  • hyfforddwr yn gwylio plentyn yn dringo
  • hyfforddwr yn dangos plentyn
  • poentyn yn gwneud gweithgareddau
  • plentyn yn dringo i fyny'r pegynau
  • plentyn ar y grisiau uchaf
  • plentyn yn neidio i lawr oddi ar y wal
  • child in the climbing centre
  • plentyn yn codi llaw
  • plentyn a hyfforddwr dringo
  • plant ar y wal rasio
  • plentyn ar y wal ddringo amseru
  • hyfforddwr yn helpu plentyn oddi ar y wal
  • plentyn yn dod i lawr oddi ar y wal
  • 3 o bobl ar wal ddringo
  • pobl yn y ganolfan ddringo
  • Pobl yn dringo
  • y wal ddringo gydag amserydd
  • gweithgareddau yn y ganolfan ddringo
  • plentyn yn neidio ar polyn
  • pobl yn rasio fyny wal ddringo
  • logo crazy climb
  • Hysbysebiad CDGC
  • room cit crazy climb
  • Plentyn yn mynd lawr ar ol dringo i'r top
  • Plentyn yn dringo y wal
  • 4 o bobl yn crazy climb
  • llun grŵp o flaen y wal ddringo
  • llun grŵp o flaen y wal ddringo
  • rasio fyny y wal ddringo
  • plentyn ar dop y grisiau dringo
  • pobl wrth yml y wal ddringo
  • merch wrth ymyl amserydd
  • plentyn yn neidio i lawr
  • Plentyn yn dechra dringo y wal
  • Person yn sefyll o flaen wal ddringo