A- A A+

English

Sesiynau Ffotograffiaeth

Dewch i ymuno â'r hwyl!

Ydych chi'n mwynhau ffotograffiaeth? 

Eisiau cwrdd â ffrindiau newydd a dysgu technegau newydd? 

Pr'un a ydych newydd ddechrau tynnu lluniau neu'n brofiadol iawn, dewch a’ch camera ac ymunwch â ni ar gyfer ein sesiynau ffotograffiaeth gwych wedi'u teilwra ar gyfer pobl sy’n byw gyda nam golwg!

Mae'r sesiynau yn cael eu rhedeg gan Paul Jenkinson, ffotograffydd lleol sydd ei hun yn byw efo nam golwg.

Mae Paul yn gwybod yn union sut i wneud ffotograffiaeth yn hygyrch ac yn hwyl i bawb.

Byddwn yn rhannu awgrymiadau, yn archwilio ffyrdd newydd o dynnu lluniau, ac yn cynnal cystadlaethau hwyliog i gadw pethau'n gyffrous!

Dewch draw i fwynhau sesiynau ffotograffiaeth mewn lle cefnogol a chreadigol.

Sesiwn cyntaf, dydd Gwener, Gorffennaf 18.

Ail sesiwn, Gorffennaf 25; Trydydd sesiwn, Awst 1; Pedwerydd sesiwn, Awst 8

Lleoliad: Plas Heli, Glan Y Don Industrial Estate, Yr Hafan, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Amser: 10yb-12yp

Am fwy o wybodaeth a hefyd i archebu eich lle, ffoniwch Bethan: 01248 353 604